Rhan 11 – Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â rhan 11 (Amrywiol a Chyffredinol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Yn cynnwys oedolion a phlant mewn carchar, llety cadw ieuenctid, mangre a gymeradwywyd, llety mechnïaeth a phreswylfa arferol

 

Cyhoeddwyd o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

 

(Teitl byr: Cod Ymarfer ar Amrywiol a Chyffredinol)

 

Cynnwys:

 

Pennod

1.    Oedolion ag anghenion gofal a chymorth mewn carchar, mangre a gymeradwywyd a llety mechnïaeth a phlant ag anghenion gofal a chymorth mewn llety cadw ieuenctid, carchar, mangre a gymeradwywyd neu lety mechnïaeth; a

2.    Preswylfa arferol ac anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorth.

 

Rhaglith

 

Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014).

 

Derbyniodd Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2014. Bydd y Ddeddf yn dod i rym ar 6 Ebrill 2016.

 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gael yn:

http://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/4/enacted

 

Rhaid i awdurdodau lleol weithredu yn unol â’r gofynion yn y cod hwn wrth gyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Nid yw adran 147 (gwyro oddi wrth ofynion mewn codau) yn berthnasol i unrhyw ofynion yn y cod hwn. Yn ogystal, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw priodol i unrhyw ganllawiau a amlinellir yma.

 

Yn y cod hwn, mae gofyniad yn cael ei fynegi fel rhaid neu ni chaniateir/rhaid...beidio. Mae canllawiau yn cael eu mynegi fel gall neu dylai / ni ddylai.

 

Mae Rhan 11 o Ddeddf 2014 – amrywiol a chyffredinol, yn cynnwys ystod o ddarpariaethau, gan gynnwys gallu Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ategu’r gwaith o roi Deddf 2014 ar waith. Mae adrannau 194 a 195 yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud ynghylch preswylfa arferol ac anghydfodau ynghylch preswylfa arferol. Mae adrannau 185 i 188 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag oedolion mewn carchar, llety cadw ieuenctid, mangre a gymeradwywyd a llety mechnïaeth a phlant mewn llety cadw ieuenctid, carchar a llety mechnïaeth.

 

Mae’r term plant yn cael ei ddefnyddio drwy’r cod hwn i olygu plant a phobl ifanc o dan 18 oed.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio rhoi’r cod hwn ar waith trwy broses sy’n ymgysylltu’n llawn â rhanddeiliaid. Mae’r gwaith o sefydlu grwpiau technegol wedi bod yn rhan annatod o’r dull hwn. Yn ogystal, yn achos adrannau 185-188, sefydlwyd grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr ag arbenigedd, gwybodaeth dechnegol a phrofiad ymarferol perthnasol i gefnogi datblygiad y cod ymarfer hwn a chanllawiau ymarfer manwl cysylltiedig.

 

Eiriolaeth

 

Rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cydradd yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol.  Mae'n agored i unrhyw unigolyn wahodd rhywun o'i ddewis i'w helpu i gyfranogi'n llawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a'i deimladau.  Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan ffrindiau rhywun, ei deulu neu rwydwaith cymorth ehangach.

 

 Mae'r cod ymarfer penodol ar eiriolaeth o dan Ran 10 o'r Ddeddf yn nodi'r swyddogaethau pan fydd yn rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â'r unigolyn, lunio barn ynglŷn â sut y gallai eiriolaeth gefnogi'r broses o ddyfarnu a sicrhau canlyniadau personol unigolyn; ynghyd â'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol.  Rhaid i weithwyr proffesiynol ac unigolion sicrhau bod barn ynglŷn â'r angen am eiriolaeth yn rhan annatod o'r dyletswyddau perthnasol o dan y cod hwn.

 


 

PENNOD 1: OEDOLION AG ANGHENION GOFAL A CHYMORTH MEWN CARCHAR, MANGRE A GYMERADWYWYD A LLETY MECHNÏAETH A PHLANT AG ANGHENION GOFAL A CHYMORTH MEWN LLETY CADW IEUENCTID, CARCHAR, MANGRE A GYMERADWYWYD NEU LETY MECHNÏAETH.

 

Cyflwyniad: nod a chwmpas

 

Mae’r bennod hon o’r cod ymarfer yn amlinellu’r dyletswyddau sydd gan awdurdodau lleol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) mewn perthynas â gofal a chymorth i:

 

v  Oedolion mewn carchar, mangre a gymeradwywyd neu lety mechnïaeth yng Nghymru (gan gynnwys y rhai dros 18 oed mewn llety cadw ieuenctid), a

 

v  Phlant mewn llety cadw ieuenctid, carchar neu lety mechnïaeth yng Nghymru a Lloegr.

 

Mae’r bennod hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

·         mewn perthynas ag oedolion ag anghenion gofal a chymorth sy’n cael eu cadw mewn sefydliadau diogel

·         mewn perthynas â phlant ag anghenion gofal a chymorth sy’n cael eu cadw mewn sefydliadau diogel

 

Mae’r cod ymarfer hwn yn amlinellu cyfrifoldebau awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas ag oedolion a phlant ag anghenion gofal a chymorth sy’n cael eu cadw mewn sefydliadau diogel.

 

Dehongli a diffiniadau

 

Mae adran 188 yn cynnwys y darpariaethau dehongli ar gyfer adrannau 185-187 o Ddeddf 2014. Mae’r darpariaethau hyn a diffiniadau eraill sy’n darparu mwy o eglurder i’r bennod hon wedi’u hesbonio isod:

 

 

Mae i “carchar” yr ystyr a roddir i “prison” yn adran 53(1) o Ddeddf Carchardai 1952 (http://www.legislation.gov.uk/ukpga/Geo6and1Eliz2/15-16/52/contents). Y Weinyddiaeth Gyfiawnder fydd yn penderfynu ym mha garchar y bydd unigolyn yn cael ei gadw.

 

Mae i “mangre a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved premises” yn adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007. Mae’n golygu llety tebyg i hostel ar gyfer goruchwylio ac adsefydlu troseddwyr.

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2007/21/contents

 

Mae i “mechnïaeth mewn achos troseddol” yr ystyr a roddir i “bail in criminal proceedings” yn adran 1 o Ddeddf Mechnïaeth 1976 (http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1976/63/contents). Mae llety mechnïaeth[1] ar gyfer pobl a fyddai fel arfer yn byw yn y gymuned ar fechnïaeth neu Gyrffyw Cyfyngu i’r Cartref ond nad oes ganddynt gyfeiriad addas – neu bobl sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol yn ystod cyfnod eu trwydded fechnïaeth neu Gyrffyw Cyfyngu i’r Cartref. Y bobl sy’n gymwys i dderbyn y gwasanaeth hwn yw’r rhai na ddylent fod yn y carchar. Maent wedi derbyn mechnïaeth gan y llysoedd neu wedi’u rhyddhau o’r carchar, ar dag electronig i gychwyn, ar ôl cwblhau dedfryd o garchar. Nod cyffredinol y gwasanaeth yw lleihau nifer y bobl sy’n colli eu rhyddid yn ddiangen a lleihau effaith negyddol hynny ar fywyd teuluol, cyflogaeth a thai, ac atal pobl rhag aildroseddu.

 

Ystyr llety cadw ieuenctid yw:

 

 

Mae’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) yn asiantaeth weithredol o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ei rôl yw comisiynu a darparu gwasanaethau i droseddwyr yn y gymuned ac yn y ddalfa yng Nghymru a Lloegr, gan sicrhau’r gwerth gorau am arian o adnoddau cyhoeddus. Mae NOMS yn gweithio i amddiffyn y cyhoedd a lleihau aildroseddu trwy ddarparu’r gosb a gweithredu gorchmynion y llysoedd trwy gefnogi adsefydlu trwy helpu troseddwyr i newid eu bywydau.

 

Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS) a Chwmnïau Adsefydlu Cymunedol (CRCs) yn gweithredu diwygiadau Trawsnewid Adsefydlu, gan roi system newydd ar waith ar gyfer rheoli troseddwyr ac adsefydlu ledled Cymru a Lloegr. Mae’r NPS yn gyfrifol am gynnal pob asesiad cychwynnol o berygl o niwed a dyrannu troseddwyr i’r NPS neu CRCs. Bydd yn rheoli pob troseddwr a all wneud niwed difrifol i’r cyhoedd; mae’r CRCs yn gyfrifol am reoli’r rhan fwyaf o’r troseddwyr yn y gymuned (troseddwyr risg isel i ganolig yn bennaf). Un CRC sydd yng Nghymru.

 

Ystyr Timau Troseddau Ieuenctid yw timau amlddisgyblaethol sy’n cynnwys y gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, heddlu a phrawf yn gweithio gyda’i gilydd, ac maent yn bartneriaethau lleol statudol a sefydlwyd gan adran 39 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998[2].

 

Mae Dyfarniad Southwark[3], a wnaed gan Arglwyddi’r Gyfraith ym mis Mai 2009, yn gosod cynsail mewn cyfraith achosion sy’n gorfodi gwasanaethau plant i ddarparu llety a chymorth i bobl ifanc 16-17 oed sy’n ddigartref. Bydd hyn yn parhau i ddarparu’r sbardun i annog adrannau gwasanaethau cymdeithasol a thai i gydweithredu i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

 

Mae Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi yn golygu Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi, sef arolygiaeth annibynnol sy’n cwmpasu Cymru a Lloegr, yn adrodd ar yr amodau a’r ffordd mae troseddwyr yn cael eu trin mewn carchardai, sefydliadau troseddwyr ifanc a chanolfannau cadw mewnfudwyr.

 

Mae Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi yn golygu Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi yn arolygiaeth annibynnol sy’n adrodd ar effeithiolrwydd gwaith gydag oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi troseddu gyda’r nod o’u hatal rhag aildroseddu ac amddiffyn y cyhoedd.

 

Mae’r Ombwdsmon Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf (PPO) yn ymchwilio i gwynion gan unigolion mewn sefydliadau diogel, gan gynnwys sefydliadau troseddwyr ifanc, y rhai ar brawf a’r rhai sy’n cael eu cadw mewn canolfannau cadw mewnfudwyr. Mae’r Ombwdsmon Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf hefyd yn ymchwilio i bob marwolaeth ymhlith carcharorion, y rhai sy’n cael eu cadw mewn canolfannau cadw mewnfudwyr a phreswylwyr mangreoedd a gymeradwywyd ac, o fis Ebrill 2015 ymlaen, byddant yn ymchwilio i farwolaethau mewn cartrefi plant diogel yn Lloegr.

 

Mae Atodiad 1 yn darparu manylion am gyfarwyddiadau perthnasol eraill, codau ymarfer a gwybodaeth bellach

 

Dyletswyddau awdurdodau lleol

 

Mae Deddf 2014 yn amlinellu’r dyletswyddau sydd gan awdurdodau lleol mewn perthynas ag oedolion ag anghenion gofal a chymorth sydd mewn sefydliadau diogel yng Nghymru. Mae’r ddyletswydd hon yn bodoli ble bynnag y bo eu preswylfa arferol yng Nghymru neu yn rhywle arall cyn iddynt gael eu rhoi dan gadwad, a chyn i’r ffordd mae cyfrifoldebau presennol dros ofal a chymorth plant mewn sefydliadau diogel (boed dan gadwad yng Nghymru neu Loegr) gael ei newid.

 

Dylai unigolion, oedolion a phlant mewn sefydliadau diogel gael eu trin yn yr un modd â’r rhai yn y gymuned, oni bai bod Rhan 11 yn datgymhwyso hawliau neu ddyletswyddau. Felly, mae adrannau 185-187 yn addasu’r defnydd o ddarpariaethau penodol yng ngweddill Deddf 2014 mewn perthynas â dosbarthiadau penodol o unigolion sy’n cael eu cadw mewn sefydliadau diogel.

 

Mae gan awdurdodau lleol amrywiaeth o ddyletswyddau i’w cyflawni o ran asesu a diwallu anghenion gofal a chymorth y rhai mewn sefydliadau diogel, ac mae angen ymagwedd gyfannol pan fo unigolion yn cwblhau eu dedfryd ac wrth gynllunio ar gyfer eu rhyddhau.

 

Mae’r cyfrifoldeb dros anghenion gofal a chymorth oedolyn mewn sefydliad diogel yng Nghymru, ble bynnag fo’i breswylfa arferol yng Nghymru neu yn rhywle arall cyn iddo gael ei roi dan gadwad, yn cael ei ysgwyddo gan yr awdurdod lleol lle lleolir y ddarpariaeth. 

 

Mae’r cyfrifoldeb dros anghenion gofal a chymorth plentyn yng Nghymru yn cael ei ysgwyddo gan yr awdurdod lleol cartref, hynny yw, awdurdod lleol yr ardal lle’r oedd y plentyn yn byw fel arfer cyn iddo gael ei roi yn y ddalfa.

 

Os nad oes gan y plentyn breswylfa arferol hysbys, bydd y cyfrifoldeb dros ei anghenion gofal a chymorth yn cael ei ysgwyddo gan yr awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn cael ei gadw, boed hynny yng Nghymru neu Loegr.

 

Rhaid i awdurdodau lleol ymgysylltu â sefydliadau partner i nodi’r ffordd orau o ddefnyddio adnoddau presennol. Gall awdurdodau lleol gomisiynu neu drefnu i eraill ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth, neu ddirprwyo’r gwaith o gyflawni’r swyddogaeth i barti arall ond, yn y pen draw, yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am gyflawni’r ddyletswydd.

 

Mae strwythur y cod ymarfer hwn yn dilyn strwythur y Ddeddf o ran edrych ar ddarpariaethau/esemptiadau i oedolion mewn sefydliadau diogel, darpariaethau/esemptiadau i blant mewn sefydliadau diogel ac esemptiadau ychwanegol sy’n berthnasol i oedolion a phlant mewn sefydliadau diogel.

 

 

Oedolion

 

Mae adran 185 yn rhoi sylw i oedolion 18 oed a hŷn mewn sefydliadau diogel yng Nghymru. Rhaid i awdurdodau lleol gyflawni’r dyletswyddau gofal a chymorth o dan Ddeddf 2014 ar gyfer yr oedolion hynny mewn sefydliadau diogel yng Nghymru, ble bynnag y bo eu preswylfa arferol yng Nghymru neu rywle arall cyn iddynt gael eu rhoi dan gadwad, lle mae’r carchar neu’r sefydliad diogel arall o fewn eu ffiniau.

 

Rhaid i awdurdodau lleol gefnogi oedolyn ag anghenion gofal a chymorth mewn sefydliad diogel yng Nghymru yn yr un modd ag y byddent yn cefnogi rhywun yn y gymuned.

 

Rhaid i’r awdurdod lleol gynllunio ei weithdrefnau gofal a chymorth fel y bydd yn gallu diwallu anghenion gofal a chymorth y rhai mewn sefydliadau diogel. Efallai y bydd angen newid y dull o ddarparu trefniadau gofal a chymorth mewn safle cymunedol er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth a chydymffurfio â phrosesau’r sefydliad diogel.

 

Rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni ei gyfrifoldebau tuag at oedolion sy’n gadael gofal mewn sefydliadau diogel ar yr adeg briodol. Mae cyfrifoldebau’r awdurdod lleol tuag at bobl sy’n gadael gofal (Pennod 5 Gadael gofal, Rhan 6) yn esempt os na all yr awdurdod lleol gyflawni’r cyfrifoldebau hyn yn ystod yr amser y mae’r unigolyn dan gadwad, ond byddant yn cychwyn eto pan fydd yr unigolyn yn cael ei ryddhau.

 

Mae adran 185(5) yn eithrio rhywfaint o’r cymorth y byddai pobl 18 oed a hŷn sy’n gadael gofal yn gymwys i’w dderbyn fel arall yn ystod eu hamser mewn sefydliadau diogel. Nid yw oedolion 18 oed a hŷn sy’n gadael gofal (categori 3), pobl sy’n gadael gofal ac yn ailgysylltu ag addysg a hyfforddiant pan fyddant yn 21 oed (categori 4), pobl ifanc a adawodd ofal o dan Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig (categori 5) a phlant eraill a oedd yn arfer derbyn gofal a all fod yn gymwys i gael cyngor a chymorth (categori 6) yn gymwys i dderbyn rhywfaint o’r cymorth y byddent yn gymwys i’w dderbyn fel arall yn unol â Rhan 6 o Ddeddf 2014[4] yn ystod eu hamser mewn sefydliadau diogel. Mae hawliadau o fewn adrannau 110,112,114 a 115 o’r Ddeddf yn cael eu datgymhwyso yn ystod y cyfnod cadw.

 

Mae adran 185(6) yn eithrio gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolion (adran 127) mewn perthynas ag oedolion rhag bod yn berthnasol i oedolion sy’n cael eu cadw mewn sefydliadau diogel. Ni all awdurdod lleol gael gorchymyn o’r fath ac ni all fynd i mewn i sefydliad diogel i arfer ei bŵer o dan y trefniant hwn.

 

Dylai Rhan 6 ar blant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya gael ei darllen ochr yn ochr â’r cod ymarfer hwn. Mae dyletswyddau o dan adrannau 105-108 o Ddeddf 2014 yn dal i fod yn berthnasol yn ystod y cyfnod y mae’r oedolyn ifanc dan gadwad[5].

 

Plant

 

Mae adran 186 yn rhoi sylw i blant mewn sefydliadau diogel. Rhaid i’r awdurdod lleol cartref yng Nghymru gyflawni’r dyletswyddau gofal a chymorth ar gyfer plant mewn sefydliadau diogel, waeth a ydynt yn cael eu cadw yng Nghymru neu Loegr, yn yr un modd â phe baent yn byw yn y gymuned.

 

Mae Tabl 1 isod yn amlinellu cyfrifoldebau awdurdodau lleol mewn perthynas ag anghenion gofal a chymorth plant mewn sefydliadau diogel, gan ystyried unrhyw gyfraniad blaenorol gan wasanaethau cymdeithasol, preswylfa arferol y plentyn a ble mae dan gadwad.  

 

Tabl 1 – Cyfrifoldebau awdurdodau lleol mewn perthynas ag anghenion gofal a chymorth plant mewn sefydliadau diogel

 

 

Preswylfa arferol y plentyn

Statws y plentyn

Lle mae’n cael ei gadw

Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol

Ymfudwr neu blentyn heb breswylfa arferol

 

Cymru

Yr awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn cael ei gadw yng Nghymru sy’n gyfrifol am ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth

 

Preswylydd arferol awdurdod lleol yng Nghymru

Waeth a yw’r plentyn wedi derbyn gwasanaethau cymdeithasol yn y gorffennol ai peidio

 

Cymru

Awdurdod lleol cartref y plentyn yng Nghymru sy’n gyfrifol am ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth

Preswylydd arferol awdurdod lleol yng Nghymru

Os oedd y plentyn yn a20 neu a31 o dan Ddeddf Plant 1989 cyn ei roi dan gadwad

Lloegr

Awdurdod lleol cartref y plentyn yng Nghymru sy’n gyfrifol am ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth

Preswylydd arferol awdurdod lleol yn Lloegr

Os oedd y plentyn yn a20 neu a31 o dan Ddeddf Plant 1989 cyn ei roi dan gadwad

Cymru

Awdurdod lleol cartref y plentyn yn Lloegr sy’n gyfrifol am ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth.

(gweler paragraff A isod)

Preswylydd arferol awdurdod lleol yn Lloegr

Os oedd y plentyn yn anhysbys i wasanaethau cymdeithasol neu os oedd wedi ei asesu fel plentyn mewn angen o dan a17 o Ddeddf Plant 1989 cyn ei roi dan gadwad

 

Cymru

Yr awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn cael ei gadw yng Nghymru sy’n gyfrifol am ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth

 

Preswylydd arferol awdurdod lleol yng Nghymru

Os nad yw’r plentyn wedi derbyn gwasanaethau cymdeithasol yn y gorffennol neu os oedd wedi ei asesu fel plentyn mewn angen o dan a17 o Ddeddf Plant 1989 cyn ei roi dan gadwad

Lloegr

Ar gyfer y grŵp hwn o blant, mae’r cyfrifoldeb yn cael ei ysgwyddo gan awdurdod lleol cartref y plentyn yng Nghymru (o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014) a’r awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn cael ei gadw yn Lloegr (o dan Ddeddf Plant 1989)

(gweler paragraff B isod)

 

Paragraff A – Mae Deddf Plant 1989, a’r rheoliadau a wnaed oddi tani, yn enwedig y Care, Planning, Placement and Review of Cases (England) Regulations 2010 a’r Visits to Former Looked After Children in Detention (England) Regulations 2010, yn sail i gyfrifoldeb yr awdurdod lleol cartref yn Lloegr dros y plant hyn. Yn ogystal, mae adran 186(6) o Ddeddf 2014 yn datgymhwyso adrannau 21, 37 a 38 o unrhyw ddefnydd mewn perthynas â phlant adran 20 sy’n cael eu cadw yng Nghymru ac y mae eu hawdurdod lleol cyfrifol yn Lloegr.

 

Paragraff B – Mae’r awdurdod lleol cartref yng Nghymru a’r awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn cael ei gadw yn Lloegr yn gyfrifol am blentyn o Gymru sy’n cael ei gadw yn Lloegr ond nad yw wedi derbyn gwasanaethau cymdeithasol neu y mae wedi ei asesu fel plentyn mewn angen o dan a17 o Ddeddf Plant 1989. Bydd angen i’r awdurdodau lleol dan sylw gytuno rhyngddynt pwy fydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb pennaf a sut y bydd hyn yn cael ei weithredu fesul achos. Bydd angen i’r cytundeb hwn gael ei amlinellu mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddau awdurdod lleol.   

 

Rhaid i’r awdurdod lleol cartref yng Nghymru gynllunio ei weithdrefnau a’i wasanaethau fel y bydd yn gallu diwallu anghenion gofal a chymorth y plant hynny mewn sefydliadau diogel. Efallai y bydd angen newid y dull o ddarparu trefniadau gofal a chymorth er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth a chydymffurfio â phrosesau’r sefydliad diogel.

 

Rhaid i’r awdurdod lleol cartref yng Nghymru gyflawni ei ddyletswyddau mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal yn ystod ei gyfnod cadw yn unol â gofynion Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 a phlant sydd wedi derbyn gofal yn y gorffennol pan fyddant yn cael eu rhyddhau.

 

Rhaid i awdurdodau lleol barhau i gyflawni ei ddyletswyddau mewn perthynas ag adrannau 105-108 o’r Ddeddf (cadw mewn cysylltiad, cynghorwyr personol, asesiadau a chynlluniau llwybr: cyffredinol, asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18), ac mae’r rhain yn dal i fod yn berthnasol i bobl ifanc categori 2 a phobl ifanc perthnasol categori 5 a 6 yn ystod eu cyfnod cadw.

 

Mae adran 186(4) yn eithrio dyletswydd awdurdod lleol i letya a/neu gynnal plentyn sy’n derbyn gofal (amlinellir y dyletswyddau yn adrannau 79, 80, 81 ac 82); mae’n eithrio’r angen i awdurdod lleol gefnogi, lletya a/neu gynnal pobl ifanc categori 2; ac mae’n eithrio’r angen i awdurdod lleol gefnogi pobl ifanc categori 5 a 6 sydd o dan 18 oed (gweler adrannau 109, 114, 115 a pharagraff 1 o atodlen 1) o ran eu haddysg a’u hyfforddiant gan na all y dyletswyddau hyn gael eu cyflawni gan yr awdurdod lleol tra bod yr unigolyn yn cael ei gadw mewn sefydliad diogel.

 

Bydd cyfrifoldebau awdurdodau lleol tuag at bobl ifanc categori 2 o dan adrannau 109, 114 a 115 o’r Ddeddf yn cael eu sbarduno eto pan fydd y plentyn yn cael ei ryddhau.

 

Dylai’r cod ymarfer hwn gael ei ddarllen ochr yn ochr â Rhan 6 o’r Ddeddf ar blant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya. Mae adran 97 o’r Ddeddf yn ymestyn y dyletswyddau sydd ar waith ar hyn o bryd o dan Ddeddf Plant 1989, adran 23ZA i ymweld â phlant a oedd yn derbyn gofal yn y gorffennol i sicrhau bod rhaid i awdurdod lleol ymweld â phob plentyn sy’n cael ei gadw mewn sefydliad diogel, yn amodol ar ddatgymhwyso rhai o’r darpariaethau cynnal a amlinellir yn adran 186(4).

 

Mae Rhan 6 yn amlinellu hefyd ddyletswyddau awdurdod lleol i hyrwyddo a chynnal cysylltiad rhwng plant sy’n derbyn gofal a’u teulu. Mae adran 95 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i hyrwyddo a chynnal cysylltiad rhwng plentyn sy’n derbyn gofal a’i deulu. Fodd bynnag, yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu a fydd yn darparu cymorth ariannol ar gyfer yr ymweliadau hyn (adran 96).

 

Pontio i fod yn oedolyn mewn sefydliadau diogel

 

Pan fo plentyn mewn sefydliad diogel yn troi’n 18 oed, mae’n cael ei ystyried yn oedolyn yn ôl y gyfraith. Rhaid i’r awdurdod lleol lle lleolir y carchar y mae’r oedolyn ifanc hwnnw yn cael ei drosglwyddo iddo ysgwyddo cyfrifoldeb dros ei anghenion gofal a chymorth.

 

O dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, ni fydd rhwymedigaeth barhaus ar yr awdurdod lleol cartref yng Nghymru ar ôl i’r plentyn droi’n 18 oed, oni bai bod y sefydliad y mae’r oedolyn ifanc yn cael ei drosglwyddo iddo o fewn yr un ardal.

 

Er hynny, rhaid i’r awdurdod lleol cartref yng Nghymru gyflawni ei ddyletswyddau mewn perthynas ag adrannau 105-108 o’r Ddeddf (cadw mewn cysylltiad, cynghorwyr personol, asesiadau a chynlluniau llwybr: cyffredinol, asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18) os ydynt yn berthnasol i bobl sy’n gadael gofal yn ystod eu cyfnod cadw.

 

Yn ymarferol, mae angen i’r trefniadau hyn gael eu hadolygu fesul achos. Os credir y byddai’r plentyn yn elwa ar barhau â’r trefniadau presennol, ar ôl iddo droi’n 18 oed, gall hyn gael ei gydgysylltu rhwng y partïon perthnasol.

 

Oedolion o Gymru mewn sefydliadau diogel yn Lloegr

 

Bydd rhai troseddwyr o Gymru yn cwblhau eu dedfryd neu ran o’u dedfryd mewn carchardai yn Lloegr. Bydd menywod o Gymru sydd wedi troseddu yn gorfod cwblhau eu dedfryd yn Lloegr gan nad oes yna garchardai i fenywod yng Nghymru. Gall unigolion o Gymru gael eu rhoi mewn llety mechnïaeth neu fangre a gymeradwywyd yn Lloegr hefyd.

 

Mae Deddf Gofal 2014 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol yn Lloegr i ddarparu gofal a chymorth i oedolion mewn sefydliadau diogel o fewn eu hardal ddaearyddol. Bydd anghenion yr oedolion hynny o Gymru mewn sefydliadau diogel yn Lloegr sydd ag anghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu gan yr awdurdod lleol yn Lloegr lle maent wedi’u lleoli.

 

Hygludedd a threfniadau trawsffiniol

 

Pan fydd oedolyn mewn sefydliad diogel yn croesi ffin awdurdod lleol (nail ai yng Nghymru neu dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr), o ganlyniad i drosglwyddiad rhwng carchardai yn ystod ei amser yn y ddalfa neu wrth adsefydlu ar ôl cael ei ryddhau, mae’n bwysig bod y gofal a’r cymorth yn parhau.

 

Ar ôl cael gwybod gan y sefydliad diogel am y trosglwyddiad neu’r rhyddhau sydd ar fin digwydd, bydd yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ofal a chymorth yr unigolyn yn ystod ei amser yn y ddalfa (yr awdurdod anfon) yn gyfrifol am gysylltu â’r awdurdod lleol y bydd yr unigolyn yn adleoli iddo (yr awdurdod derbyn) cyn gynted â phosibl. Bydd angen i’r ddau awdurdod weithio gyda’i gilydd a rhannu gwybodaeth briodol i sicrhau bod y gofal a’r cymorth yn parhau, hyd nes y bydd yr awdurdod derbyn yn cynnal ailasesiad o anghenion gofal a chymorth yr unigolyn.

 

Mae’r trefniadau hyn yn cael eu cefnogi gan egwyddorion parhad gofal trawsffiniol yn y Deyrnas Unedig fel y’u hamlinellir yn y cod ymarfer ar gyfer Rhan 4 o’r Ddeddf – Atodiad 2, a bydd cyfrifoldebau’r gwasanaeth carchardai o dan amgylchiadau o’r fath yn cael eu hegluro mewn gwelliant PSI 15/2015 Gofal Cymdeithasol Oedolion.

 

Yn achos y plentyn/unigolyn ifanc, os bydd yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ei anghenion gofal a chymorth yn newid, dylai’r trefniadau uchod fod yn berthnasol.

 

Esemptiadau ar gyfer plant ac oedolion o dan y Ddeddf

 

Mae’r rhan fwyaf o’r darpariaethau o dan y Ddeddf yn berthnasol i’r rhai mewn sefydliadau diogel yn yr un modd ag y byddent yn berthnasol i unigolion sy’n byw yn y gymuned. Mae adran 185 yn amlinellu’r darpariaethau/ esemptiadau ar gyfer oedolion mewn sefydliadau diogel, mae adran 186 yn amlinellu’r darpariaethau/esemptiadau ar gyfer plant mewn sefydliadau diogel ac mae adran 187 yn amlinellu darpariaethau sydd wedi’u datgymhwyso ar gyfer plant ac oedolion. Mae’r rhain wedi’u hesbonio isod.

 

Gofalwyr

 

Mae adran 187(1) yn nodi na all person (plentyn/oedolyn) fod yn ofalwr os yw’n cael ei gadw mewn carchar, mangre a gymeradwywyd neu lety cadw ieuenctid neu os yw’n cael ei gadw mewn mangre a gymeradwywyd ar ôl iddo gael ei ddyfarnu’n euog o drosedd.

 

Mae hyn yn golygu na all unigolyn gael statws ffurfiol gofalwr o dan y Ddeddf hyd yn oed os yw’n cynorthwyo unigolyn arall. Caniateir trefniadau i droseddwyr gynorthwyo troseddwyr eraill, megis trwy gasglu prydau bwyd.  

 

Mae Cyfarwyddyd Gwasanaeth Carchardai wedi’i gyhoeddi i gynnwys carcharorion sy’n cynorthwyo carcharorion eraill. Mae Cyfarwyddyd Gwasanaeth Carchardai 17/2015[6] (‘Prisoners Assisting Other Prisoners’) yn berthnasol yn Lloegr, ond mae’r dull a amlinellir yn berthnasol yng Nghymru hefyd. Mae’n disgrifio’r egwyddorion sy’n berthnasol i’r holl drefniadau ffurfiol ar gyfer carcharorion sy’n darparu cymorth, gan gynnwys diwallu anghenion gofal a chymorth, i garcharorion eraill.

 

Taliadau uniongyrchol

 

Mae adran 187(2) yn nodi na all person (plentyn/oedolyn) dderbyn taliadau uniongyrchol tuag at gost eu hanghenion gofal a chymorth os ydynt wedi eu cael yn euog o drosedd a’u bod mewn carchar neu lety cadw ieuenctid neu fangre a gymeradwywyd. Byddai unrhyw unigolyn yn y ddalfa sy’n gymwys i gael gofal a chymorth i ddiwallu ei anghenion yn derbyn y gofal a’r cymorth hwnnw trwy ddarpariaeth uniongyrchol gan yr awdurdod lleol.

 

Ffafrio llety penodol

 

Mae adran 187(3) yn nodi na all person (plentyn/oedolyn) fynegi ei fod yn ffafrio llety penodol os yw’n cael ei gadw mewn carchar neu ganolfan cadw ieuenctid neu’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

 

Gall unigolion fynegi eu bod yn ffafrio llety penodol os ydynt yn gwneud cynlluniau ar gyfer eu llety ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, yn amodol ar faterion asesu risg ac amddiffyn y cyhoedd ac ystyriaethau yn ymwneud â dioddefwyr. Efallai y bydd angen i wasanaethau prawf gytuno ar yr ardal y bydd yr unigolyn yn preswylio ynddi yn seiliedig ar ofynion goruchwylio a/neu asesiadau risg. Mae adran 52 (6) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014[7] yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu strategaethau digartrefedd a chyfeirio at gamau y maent yn eu cymryd neu y mae eu sefydliadau partner yn eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw un sydd angen cymorth am ei fod yn ddigartref neu os yw’n wynebu risg o fod yn ddigartref, gan gynnwys y bobl hynny sy’n gadael carchar neu ganolfan cadw ieuenctid.  

 

Gwarchod eiddo

 

Mae adran 187(4) yn nodi nad yw dyletswydd awdurdod lleol i warchod eiddo person (plentyn/oedolyn) yn berthnasol os yw mewn carchar neu ganolfan cadw ieuenctid neu’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

 

Byddai’r rhai ar remand sy’n byw mewn llety mechnïaeth neu o dan Gyrffyw Cyfyngu i’r Cartref (plentyn/oedolyn) yn dal yn gallu bod yn ofalwyr, derbyn taliadau uniongyrchol os yn berthnasol, mynegi eu bod yn ffafrio llety penodol (fel rhan o ofyniad y llys) a sicrhau bod eu heiddo’n cael ei warchod yn yr un modd ag unrhyw unigolyn arall yn ardal yr awdurdod.

 

Gweithio mewn Partneriaeth

 

Bydd angen i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth ag ystod o randdeiliaid i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf 2014 i sicrhau dull cydgysylltiedig o ddiwallu anghenion gofal a chymorth. Bydd asiantaethau cyfiawnder troseddol yn bartneriaid allweddol yn y trefniadau hyn.

 

Rhaid i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth ar draws eu hadrannau megis gwasanaethau cymdeithasol, tai ac addysg i sicrhau ymateb cyson a chyfunol gan yr awdurdod lleol.

 

Rhaid i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â’u partneriaid allanol:

 

Rhaid i awdurdodau lleol gyfrannu at drefniadau amlasiantaethol sydd wedi’u datblygu i amddiffyn y cyhoedd ac unigolion a dioddefwyr.

 

Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd

 

Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA) yng Nghymru a Lloegr yw’r ffordd mae awdurdodau cyfrifol yn rheoli troseddwyr rhyw cofrestredig, troseddwyr rhyw treisgar a mathau eraill o droseddwyr rhyw a throseddwyr sy’n peri risg ddifrifol o niwed i’r cyhoedd. Mae MAPPA yn cynnwys y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yng Nghymru, y Gwasanaeth Carchardai a heddluoedd yng Nghymru. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i gydweithredu ac efallai y bydd angen iddynt ymateb i amserlenni a gofynion MAPPA (chwe mis cyn rhyddhau) wrth gynllunio ar gyfer rhyddhau troseddwr.

 

 

 

Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol

 

Y Gynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC) ar Gam-drin Domestig yw’r ffordd mae asiantaethau’n cydweithredu i amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig. Mae awdurdodau lleol yn bartneriaid allweddol yn y trefniadau hyn ac, yn aml, bydd amodau caeth yn gysylltiedig ag achosion o gam-drin domestig, ac efallai y bydd angen i’r amodau hyn gael eu hadlewyrchu mewn cynllun gofal a chymorth, yn enwedig mewn perthynas â lletya a lleoli troseddwr ar ôl iddo gael ei ryddhau.

 

Dylai awdurdodau lleol wneud cysylltiadau â Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu a phartneriaid statudol ac anstatudol eraill, gan gynnwys byrddau cyfiawnder troseddol lleol, grwpiau rhanbarthol amlasiantaethol Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru, y rhai sy’n darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau troseddwyr a phaneli ailintegreiddio ac ailsefydlu plant ledled Cymru. 

 

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

 

Rhaid i awdurdodau lleol â sefydliad diogel o fewn eu ffiniau lunio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhyngddyn nhw, NOMS/Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a’r sefydliad diogel y maent yn gweithio gydag ef. Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi sut mae’r trefniadau gofal a chymorth yn cael eu rhoi ar waith yn y sefydliad diogel.

 

Mae gan sefydliadau o fewn y sefydliad diogel brosesau a gweithdrefnau penodol iawn, a rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod trefniadau o’r fath yn gadarn ac yn cynnig ymateb cymesur i’r anghenion gofal a chymorth a gyflwynir. Bydd hyn yn cynnwys cydymffurfio â rheolau ac arferion sefydliadau diogel, gan gynnwys polisïau diogelwch megis fetio staff, chwilio am eitemau gwaharddedig wrth i berson gael mynediad i’r sefydliad neu adael y sefydliad a gweithdrefnau cydraddoldeb.

 

Fetio at ddibenion diogelwch

 

Rhaid i staff a gyflogir gan awdurdodau lleol sy’n gweithio gydag oedolion mewn sefydliad diogel lle mae’r staff yn dod i gysylltiad ag unigolion yn rheolaidd, yn gyson a heb oruchwyliaeth gwblhau’r gwiriadau diogelwch a bodloni unrhyw ofynion clirio eraill a amlinellir gan NOMS. Rhaid i fanylion y weithdrefn fetio fod wedi’u hamlinellu yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

 

Rhaid i awdurdodau lleol gyflwyno i’r sefydliad diogel y maent yn gweithio gydag ef enwau a manylion y staff y bydd angen iddynt gael mynediad i’r sefydliad diogel. Bydd y sefydliad diogel yn cwblhau’r gweithdrefnau fetio ar ran yr awdurdod lleol ac yn rhoi gwybod iddo pan fydd y staff wedi cael eu clirio.

 

Mae’r broses fetio’n gallu para misoedd, felly cynghorir awdurdodau lleol i gynllunio ymlaen llaw wrth lenwi swyddi gwag. Rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda sefydliadau diogel i sicrhau eu bod yn cymryd digon o amser i fetio, hyfforddi a sicrhau bod staff yn cynefino â’r amgylchedd y byddant yn gweithio ynddo.

 

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried sut y bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu i’r rhai yn y sefydliad diogel a sicrhau eu bod yn rhoi’r un sylw i fetio staff darparwyr gofal a chymorth ag a roddir i fetio eu staff eu hunain.

 

Dylai awdurdodau lleol ymgysylltu â’u partneriaid, yn enwedig eu Bwrdd Iechyd Lleol, i ddysgu gwersi ar sut i ymgysylltu a chadw ymarferwyr sydd â’r rhinweddau priodol i weithio mewn amgylchedd diogel.  

 

Diwallu Anghenion Gofal a Chymorth

 

Mae cyfrifoldebau’r awdurdod lleol o ran diwallu anghenion gofal a chymorth y rhai mewn sefydliadau diogel a sut y mae’n rhaid i awdurdodau lleol gynllunio a chyflawni’r rhain wedi’u hamlinellu isod.

 

Asesiad Poblogaeth

 

Mae’r rheoliadau o dan Ran 9 o Ddeddf 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu byrddau partneriaeth rhanbarthol. Rhaid i’r byrddau partneriaeth rhanbarthol sicrhau bod awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid allweddol yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i ymateb i’r asesiad poblogaeth a gynhaliwyd yn adran 14 o’r Ddeddf. 

 

Rhaid i awdurdodau lleol gynnwys poblogaethau sefydliadau diogel yn eu hadroddiad ar yr asesiad poblogaeth ac ystyried unrhyw gynlluniau ar gyfer sefydliadau diogel yng Nghymru. Wrth wneud hynny, byddant am ymgynghori â NOMS/Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.

 

Mae canllawiau pellach ar gael yn y Cod Ymarfer o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

 

Gwasanaethau ataliol

 

Mae adran 15 o Ddeddf 2014 yn amlinellu sut mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu neu drefnu gwasanaethau sy’n atal neu’n gohirio datblygiad anghenion gofal a chymorth pobl. 

 

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried, mewn partneriaeth ag eraill, sut y byddant yn darparu’r gwasanaethau ataliol sydd eu hangen ar y rhai mewn sefydliadau diogel.

 

Mae gan sefydliadau diogel ystod eang o wasanaethau y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i roi’r trefniadau atal ac ymyrraeth gynnar ar waith. Nid yw hyn yn atal awdurdod lleol rhag nodi gwasanaethau ataliol ychwanegol y gellid eu datblygu a’u gweithredu o fewn y sefydliad diogel.

 

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y ffordd orau o ddarparu’r gwasanaethau hynny i oedolion sydd o dan gyfrifoldeb gwasanaethau prawf yn y gymuned, gan ystyried Strategaeth Lleihau Aildroseddu Cymru[8].

 

Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y ffordd orau o ddarparu’r gwasanaethau hynny i blant, gan ystyried strategaeth ar y cyd Llywodraeth Cymru/y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i wella gwasanaethau i bobl ifanc o Gymru sy’n wynebu risg o ddod yn rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid, neu sydd eisoes yn rhan o’r system honno[9].

 

Mae canllawiau pellach ar gael yn y Cod Ymarfer o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

 

Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

 

Bydd y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth yn atgyfeirio plant ac oedolion mewn sefydliadau diogel i wasanaethau priodol i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth. Bydd y dull hwn yn adlewyrchu’r ffordd mae’r rhai sy’n byw yn y gymuned yn cael eu cefnogi gan y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried gyda phartneriaid y ffordd fwyaf priodol y gall y rhai mewn sefydliadau diogel gael mynediad at y gwasanaeth hwn.

 

Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod y wybodaeth, y cyngor a’r cymorth a gynigir yn hygyrch i bob unigolyn sydd eu hangen, a bydd proffil pob un o’r sefydliadau diogel yn bwysig o ran penderfynu sut i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r rhai mewn sefydliadau diogel. Mae hyn yn cynnwys yr angen i ddarparu mynediad at y gwasanaeth hwn trwy’r Gymraeg os bydd yr unigolyn yn dymuno hynny.

 

Gall NOMS helpu awdurdodau lleol i gynllunio a galluogi darpariaeth y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r oedolion hynny mewn sefydliadau diogel. Gall y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a’r rhai sy’n rheoli sefydliadau diogel i blant helpu awdurdodau lleol i gynllunio a galluogi darpariaeth y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth. Rhaid i awdurdodau lleol ymgysylltu â’r rhai sy’n rheoli’r sefydliadau diogel i sicrhau bod y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth a ddarperir yn effeithiol a phriodol.

                                    

Gall y system rhith-gampws ar y fewnrwyd, sy’n cefnogi datblygu sgiliau a dysgu mewn sefydliadau diogel, fod yn adnodd a all helpu’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth mewn sefydliadau diogel. Dylai awdurdodau lleol ystyried y datblygiad hwn gyda’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr a’i bartneriaid allweddol eraill.

 

Efallai y bydd y defnydd o e-bost diogel i’r rhai mewn sefydliadau diogel yn gyfle i ddarparu’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth i unigolion, ac i deulu a ffrindiau’r rhai mewn sefydliadau diogel gyfathrebu gwybodaeth a chyngor ar eu rhan.

 

Mae’r gwasanaeth carchardai yn darparu cwrs cynefino ar gyfer pawb sy’n mynd i mewn i sefydliad diogel. Gall y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth fod yn fodiwl yn y cwrs i helpu unigolion i ddeall sut mae’r system gofal a chymorth yn gweithio a sut y gall eu helpu nhw neu eu teulu i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth.

 

Mae canllawiau pellach ar gael yn y Cod Ymarfer o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

Mae adran 60(6) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi cyfle i awdurdod lleol ddarparu pecyn cyfannol o wybodaeth, cyngor a chymorth i’r rhai mewn sefydliadau diogel sy’n cwmpasu anghenion gofal a chymorth, yn ogystal â chyngor a chymorth tai i atal digartrefedd.

 

Eiriolaeth

 

Mae gwasanaethau eiriolaeth yn gwneud cyfraniad hollbwysig at helpu unigolion i ystyried eu hanghenion gofal a chymorth. O dro i dro, oherwydd eu hanghenion penodol, efallai y bydd pobl angen cymorth ychwanegol i sicrhau y gallant ddeall beth sydd ar gael iddynt a sut i gael gafael ar y cymorth hwn. Mewn achosion o’r fath, rhaid sicrhau bod eiriolaeth ar gael i sicrhau bod pobl yn mynd ati i fynegi eu barn a’u teimladau ac yn gallu cymryd rhan yn y broses trwy wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt a phennu’r ffordd orau o gyflawni’r canlyniadau lles y maent yn dymuno eu cyflawni.

 

Rhaid i eiriolaeth gael ei darparu i’r rhai mewn sefydliadau diogel yn yr un modd ag i’r rhai sy’n byw yn y gymuned. Gall eiriolaeth gael ei darparu gan deulu, ffrindiau neu rwydwaith cymorth ehangach rhywun. Bydd yna adegau pan na fydd y brif ffynhonnell eiriolaeth hon ar gael ac, yn yr achosion hyn, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau y darperir eiriolwr annibynnol, heb gost i’r unigolyn, fel y gall gymryd rhan lawn yn y broses.

 

Mae canllawiau pellach ar gael yn y Cod Ymarfer ar Gwynion, Sylwadau a Gwasanaethau Eirioli o dan Ran 10 o’r Ddeddf. 

 

Asesiad

 

Mae gan y rhai mewn sefydliadau diogel sydd ag anghenion gofal a chymorth hawl i gael asesiad gyda’r nod o gyflawni eu canlyniadau lles personol. Rhaid i awdurdodau lleol asesu’r rhai mewn sefydliadau diogel yn yr un modd ag y byddent yn asesu unrhyw un sy’n byw yn eu hardal, ond efallai y bydd angen iddynt newid y dull o ddarparu’r trefniadau asesu fel ei fod yn cydymffurfio â chyfyngiadau system y sefydliad diogel.

 

Mae gallu’r rhai ag anghenion gofal a chymorth i gael mynediad at drefniadau asesu priodol pan fyddant yn y ddalfa yn bwysig, ond mae anghenion newidiol unigolion yn gallu golygu efallai y bydd angen asesiad arnynt neu adolygiad ar adegau eraill yn ystod dedfryd neu wrth symud rhwng sefydliadau.

 

Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau ei fod yn darparu asesiad priodol a chymesur ar ôl iddo gael gwybod y credir bod gan unigolyn mewn sefydliad diogel anghenion gofal a chymorth. Mae’r adnodd sgrinio sylfaenol ar gyfer pobl yn y ddalfa[10] a’r asesiad o anghenion iechyd oedolion neu’r asesiad cychwynnol a’r cyfweliad derbyn ar gyfer plant yn ffyrdd cychwynnol o nodi anghenion gofal a chymorth unigolyn ar ôl iddo fynd i mewn i sefydliad diogel ac mae’n debygol y bydd awdurdodau lleol yn derbyn atgyfeiriad cychwynnol o ganlyniad i’r prosesau hyn.

 

Os yw awdurdod lleol wedi sefydlu bod unigolyn wedi bod yn derbyn gofal a chymorth cyn mynd i mewn i’r sefydliad diogel trwy’r prosesau uchod, bydd angen iddynt ailasesu’r ffordd orau o ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn hwnnw nawr ei fod mewn sefydliad diogel.

 

Dylai awdurdodau lleol ystyried anghenion y teulu ehangach ar gyfer unrhyw unigolyn wrth gynnal asesiad.

 

Gall aelod o’r teulu godi pryderon ynglŷn ag anghenion gofal a chymorth unigolyn mewn sefydliad diogel, a gwneud cais am asesiad. Os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol hwnnw efallai bod gan yr unigolyn anghenion gofal a chymorth, bydd ganddo ddyletswydd i asesu’r anghenion gofal a chymorth hynny.

 

Mewn ffordd debyg, gall y rhai yn y sefydliad diogel godi pryderon ynglŷn ag anghenion gofal a chymorth aelod arall o’r teulu, ble bynnag y mae’r person hwnnw’n byw yng Nghymru. Os yw’n ymddangos i awdurdod lleol efallai bod gan yr unigolyn dan sylw anghenion gofal a chymorth, bydd ganddo ddyletswydd i asesu’r anghenion gofal a chymorth hynny. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod trefniadau atgyfeirio ar gael rhwng ymarferwyr i sicrhau bod gwybodaeth a chanlyniad unrhyw asesiadau perthnasol a fydd yn effeithio ar aelodau eraill o’r teulu yn cael eu rhannu a’u gweithredu.

 

Gall awdurdod lleol gyfuno asesiad gofal a chymorth ag asesiad arall, neu gall gynnal yr asesiad ar y cyd ag asesiad arall. Rhaid i awdurdodau lleol gydnabod yr angen i gynnwys asiantaethau eraill megis y Tîm o Amgylch y Teulu, y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ac ysgolion wrth gynnal asesiadau o’r fath ac ystyried unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd gan yr unigolyn.

 

Rhaid defnyddio’r offeryn asesu a chymhwysedd cenedlaethol, a ddatblygwyd i’w ddefnyddio ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru, ar gyfer y rhai mewn sefydliadau diogel. Bydd yr offeryn cenedlaethol yn sicrhau cysondeb pan fydd unigolion ag anghenion gofal a chymorth yn cael eu trosglwyddo i ofal awdurdod lleol arall, naill ai oherwydd eu bod yn cael eu symud o un carchar i’r llall neu oherwydd eu bod yn cael eu rhyddhau.

 

Os bydd oedolyn neu blentyn 16-17 oed yn gwrthod asesiad, ni fydd dyletswydd yr awdurdod lleol i gynnal yr asesiad yn berthnasol. Fodd bynnag, rhaid i awdurdod lleol fod yn ymwybodol o’r angen i gynnal asesiad o dan rai amgylchiadau, hyd yn oed os bydd yr unigolyn wedi gwrthod asesiad.

 

Os yn briodol, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cael caniatâd i rannu asesiad unigolyn gyda darparwyr eraill sy’n rhan o’r gwaith o gefnogi a rheoli’r unigolyn. Os na cheir caniatâd i wneud hyn, dylai’r awdurdodau lleol geisio pwysleisio i’r unigolyn y gwerth o wneud hynny ac esbonio sut y bydd rhannu yn gwella’r gwaith rhwng asiantaethau er lles yr unigolyn.

 

Mae canllawiau pellach ar gael yn y Cod Ymarfer ar Asesiad o dan Ran 3 o’r Ddeddf a’r Cod Ymarfer ar Ddiwallu Anghenion o dan Ran 4 o’r Ddeddf.   

 

Cymhwysedd

 

Mae’r model cymhwysedd o dan y Ddeddf yn gosod y statws cymhwysedd ar yr angen unigol, yn hytrach nag ar y person. I’r rhai mewn sefydliadau diogel, mae cymhwysedd anghenion yr unigolyn yr un fath ag ar gyfer y rhai yn y gymuned. Ystyrir bod anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn gymwys os bydd yr anghenion ond yn gallu cael eu diwallu trwy ddarparu cynllun gofal a chymorth a reolir gan yr awdurdod lleol.

 

Os ystyrir bod anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol weithio mewn partneriaeth â’r unigolyn, a’i sefydliadau partner, i ddatblygu’r cynllun gofal a chymorth.

 

Cynllunio Gofal

 

Os ystyrir bod unrhyw un o anghenion unigolyn yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu cynllun gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn hwnnw, gan nodi’r ffordd orau o ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth. 

 

Bydd cynlluniau gofal a chymorth ar gyfer y rhai mewn sefydliadau diogel yn amodol ar yr un broses adolygu â’r holl gynlluniau eraill, a dylid eu hadolygu bob tro y bydd unigolyn yn mynd i’r ddalfa o’r gymuned neu’n cael ei ryddhau i’r gymuned. 

 

Dim ond trwy’r broses adolygiad achos y gellir penderfynu dod â chynllun gofal a chymorth i ben / cau achos. Bydd hyn yn sicrhau y bydd awdurdodau lleol ond yn gallu cau achos ar ôl gwerthuso i ba raddau y mae’r canlyniadau wedi’u cyflawni a chael cadarnhad bod gan yr unigolyn wybodaeth, cyngor a chymorth priodol a/neu fynediad at wasanaethau ataliol i ddiwallu ei anghenion.

 

Bydd y dull hwn yn sicrhau bod trefniadau gofal a chymorth yn cael eu hintegreiddio gyda threfniadau gofal a thriniaeth eraill. Rhaid i’r awdurdod lleol archwilio cyfleoedd i gynnwys sefydliadau partner eraill (gyda chaniatâd yr unigolyn) wrth lunio cynllun gofal a chymorth y person, gan gynnwys staff y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr a staff gofal iechyd.

 

Os yw dyletswyddau’n gorgyffwrdd o ran paratoi cynlluniau a ragnodir yn genedlaethol neu’n gyfreithiol, er enghraifft Cynllun Gofal a Thriniaeth a ragnodir o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 neu gynllun gofal adran 31A a baratoir at ddibenion Rhan 4 o Ddeddf Plant 1989, neu gynllun cadw o dan Reoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015, a bod yna gynllun sy’n bodloni gofynion cynllun gofal a chymorth, gellir ystyried y gall awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau o ran gofal a chymorth trwy baratoi, darparu ac adolygu’r cynllun hwnnw.

 

Os oes yna gynlluniau lles neu arbenigol nad ydynt yn bodloni gofynion cynllun gofal a chymorth, rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod ymarferwyr yn rhoi sylw i’r rheoliadau cynllunio gofal a’r cod ymarfer priodol, ond rhaid crynhoi’r trefniadau gofal mewn un cynllun gofal a chymorth integredig. Bydd y cynllun hwn yn cynnwys cynlluniau yn ymwneud â diogelu’r unigolyn.

 

Mae canllawiau pellach ar gael yn y Cod Ymarfer ar Ddiwallu Anghenion o dan Ran 4 o’r Ddeddf.

 

 

Cyfarpar neu addasiadau

 

I’r rhai sydd angen cyfarpar neu addasiadau i’w llety er mwyn diwallu eu hanghenion gofal a chymorth, rhaid i awdurdodau lleol drafod gyda’u partneriaid mewn sefydliadau diogel a gwasanaethau gofal iechyd pwy sy’n gyfrifol am ddiwallu’r angen hwnnw. Os yw’r angen yn ymwneud â gosodiadau a ffitiadau, er enghraifft, rheilen llaw neu ramp, y sefydliad diogel fydd yn gyfrifol am eu darparu. Efallai na fydd rhai addasiadau a awgrymir yn bosibl yn yr amgylchedd diogel. Yn y sefyllfaoedd hyn, dylai awdurdodau lleol gysylltu â rheolwyr canolfannau cadw a sicrhau bod anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn parhau i gael eu diwallu.

 

Dylai awdurdodau lleol ddarparu eitemau arbenigol ac eitemau y gellir eu symud megis teclynnau codi neu gymhorthion cerdded a symudol, os yn briodol.

 

Mae canllawiau pellach ar gael yn y Cod Ymarfer ar Ddiwallu Anghenion o dan Ran 4 o’r Ddeddf.

 

Diogelu

 

Byrddau Diogelu a Sefydliadau Diogel

 

Amcanion byrddau diogelu oedolion o dan y Ddeddf yw amddiffyn oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth ac sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, ac atal oedolion o’r fath rhag wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae gan fyrddau diogelu plant amcanion tebyg i amddiffyn plant sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu’n dioddef mathau eraill o niwed, neu sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, ac atal plant o’r fath rhag wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed.

 

Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a’r Cwmni Adsefydlu Cymunedol ar gyfer Cymru yn bartneriaid statudol ar fyrddau diogelu oedolion a byrddau diogelu plant trwy adran 134(2)(e) ac (f) o’r Ddeddf yn ôl eu trefn. Y partneriaid statudol eraill yw’r heddlu, Ymddiriedolaeth y GIG, y bwrdd iechyd lleol a’r awdurdod lleol.

 

Nid yw llywodraethwyr carchardai yn bartner bwrdd diogelu penodol, felly nid yw’n ofynnol iddynt fod yn aelod o’r bwrdd. Mae byrddau’n fforwm ar gyfer cyfnewid cyngor ac arbenigedd ac mae gwahodd llywodraethwr carchar i gymryd rhan mewn trefniadau bwrdd diogel lle mae carchar o fewn ffiniau’r bwrdd yn debygol o helpu aelodau’r bwrdd a llywodraethwyr i sicrhau bod y rhai mewn sefydliadau diogel yn cael eu diogelu’n effeithiol. 

 

Mae Cyfarwyddyd Gwasanaeth Carchardai 16/2015[11], Diogelu Carcharorion mewn Carchardai, sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr, yn amlinellu bod byrddau diogelu sydd â charchardai yn eu hardal yn cael eu hannog i wahodd llywodraethwyr carchardai i ddod yn aelodau o’r bwrdd, ac mae llywodraethwyr yn cael eu hannog i fod yn rhagweithiol o ran ymgysylltu â’r bwrdd diogelu a dod yn aelod (neu anfon cynrychiolydd).

 

Efallai y bydd byrddau diogelu yn dangos diddordeb strategol yng ngwaith diogelu’r carchar a/neu yn darparu cyngor a chymorth ar sut mae carcharorion ag anghenion gofal a chymorth sy’n destun pryderon diogelu yn cael eu rheoli.

 

Er enghraifft, efallai yr hoffai byrddau gyfrannu os yw unigolyn ar fin cael ei ryddhau ac os oes yna botensial i ddysgu o’r trefniadau sydd wedi’u rhoi ar waith yn y sefydliad diogel gan y rhai sy’n gyfrifol am sicrhau diogelwch unigolion yn y gymuned. Efallai yr hoffai byrddau, fel rhan o’u trefniadau cyfranogiad, roi cyfle i garcharorion ag anghenion gofal a chymorth gyfrannu at eu gwaith, er enghraifft trwy gynnal grwpiau ymgynghori â charcharorion. Anogir llywodraethwyr i rannu gwybodaeth berthnasol a hwyluso mynediad at garcharorion fel sy’n briodol.

 

Diogelu oedolion

 

Mae Byrddau Diogelu Oedolion yn gyfrifol am amddiffyn oedolion yn eu hardal sydd ag anghenion gofal a chymorth ac sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, ac amddiffyn oedolion rhag wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

 

Ochr yn ochr â’r ddyletswydd hon, mae’r NOMS wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd Gwasanaeth Carchardai 16/2016[12], sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr, sy’n nodi’r prosesau y mae’n rhaid i lywodraethwyr carchardai eu rhoi ar waith i sicrhau bod carcharorion yn derbyn lefel o amddiffyniad sy’n gyfwerth â’r amddiffyniad a ddarperir i oedolion yn y gymuned, yn enwedig y rhai sydd o bosibl ag anghenion gofal A chymorth ac nad ydynt yn gallu amddiffyn eu hunain rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu’r risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. 

 

Mae Cyfarwyddyd Gwasanaeth Carchardai 16/2015, Diogelu Carcharorion mewn Carchardai, sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr, yn nodi bod rhaid i lywodraethwyr carchardai: 

 

 

Bydd byrddau diogelu a llywodraethwyr carchardai am sefydlu mecanweithiau i amlinellu’n glir sut y bydd eu cyd-ddyletswyddau a’u cydgyfrifoldebau yn cael eu gweithredu’n gydlynol a chyfreithlon.

 

Bydd awdurdodau lleol yn benodol am sefydlu mecanweithiau gyda llywodraethwyr carchardai i amlinellu’n glir y trefniadau y bydd yr awdurdod lleol yn eu rhoi ar waith i gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 126 o’r Ddeddf o ganlyniad i dderbyn adroddiad o dan adran 128 neu fel arall bod oedolyn yn wynebu risg. Mae dyletswydd adran 126 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdod lleol, os oes ganddo achos rhesymol i amau bod oedolyn yn ei ardal yn oedolyn sy’n wynebu risg yn ôl y diffiniad yn adran 126(1):

 

 

Bydd angen i drefniadau o’r fath adlewyrchu’r angen i’r dyletswyddau hyn gael eu cyflawni, yn amodol ar y newidiadau sydd angen eu gwneud o ganlyniad i oedolyn yn cael ei gadw mewn sefydliad diogel a dyletswyddau llywodraethwr y carchar yn gorgyffwrdd o dan y Cyfarwyddiadau Gwasanaeth Carchardai statudol perthnasol.

 

Mae Cyfarwyddiadau Gwasanaeth Carchardai 15/2014[13] a 05/2014[14], sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr, yn amlinellu’r gofynion gwasanaeth ar gyfer Ymchwiliadau a dysgu yn dilyn achosion o hunan-niwed difrifol neu ymosodiadau difrifol a diogelu plant ac oedolion agored i niwed.

 

Mae canllawiau manwl ar swyddogaethau byrddau diogelu wedi’u hamlinellu yn y canllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan Ran 7 o’r Ddeddf.

 

Diogelu plant

 

Mae byrddau diogelu plant yn gyfrifol am amddiffyn plant yn eu hardal sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu sy’n dioddef mathau eraill o niwed neu sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, ac amddiffyn plant rhag wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed.

 

Ym mis Tachwedd 2002, dyfarnodd yr Uchel Lys fod dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan Ddeddf Plant 1989 i ddarparu amrywiaeth briodol o wasanaethau i blant mewn angen yn berthnasol hefyd i blant sy’n cael eu cadw mewn sefydliadau diogel (dyfarniad Munby). Dyfarnodd yr Uchel Lys hefyd fod deddfwriaeth hawliau dynol, yn enwedig Deddf Hawliau Dynol 1998, yn berthnasol i blant mewn canolfannau cadw.

 

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru sicrhau bod eu cynrychiolydd yn ymweld ag unrhyw blentyn sydd fel arfer yn byw yn eu hardal ond sy’n cael ei gadw mewn sefydliad diogel (boed hynny yng Nghymru neu yn Lloegr). Diben yr ymweliad yw siarad â’r plentyn yn breifat a darparu adroddiad ysgrifenedig yn nodi a yw lles y plentyn yn cael ei ddiogelu’n ddigonol, mynychder ymweliadau yn y dyfodol, trefniadau i hyrwyddo cysylltiad â theulu’r plentyn ac asesiad o sut y bydd lles y plentyn yn cael ei ddiogelu ar ôl iddo gael ei ryddhau.

 

Yng Nghymru, mae plant yn cael eu cadw naill ai yng Nghartref Plant Diogel Hillside neu yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc. Mae Cartref Plant Diogel Hillside yn cael ei reoli gan yr awdurdod lleol ac mae wedi’i gofrestru ac yn cael ei arolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae’r cyfrifoldeb dros drefniadau diogelu o ddydd i ddydd yn y cartref plant diogel yn cael ei ysgwyddo gan y rheolwr cofrestredig o dan oruchwyliaeth yr awdurdod lleol.

 

Rhaid i fyrddau diogelu a’r cartref plant diogel sefydlu mecanweithiau i amlinellu’n glir sut y bydd eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau a rennir i ddiogelu plant yn cael eu defnyddio mewn ffordd gydlynol a chyfreithlon ac yn adlewyrchu’r angen i’r dyletswyddau hyn gael eu cyflawni, yn amodol ar y newidiadau sydd angen eu gwneud o ganlyniad i blentyn yn cael ei gadw mewn sefydliad diogel.

 

Mae Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc yn gweithredu o dan gontract a reolir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn amodol ar Gyfarwyddyd Gwasanaeth Carchardai 08/2012, Gofalu am Bobl Ifanc a’u Rheoli. Mae Cyfarwyddyd Gwasanaeth Carchardai 08/2012 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob sefydliad diogel sy’n cadw pobl ifanc o dan 18 oed gynhyrchu, cyhoeddi a chytuno gyda’r bwrdd lleol diogelu plant ddatganiad polisi diogelu plant, a dylai’r datganiad hwnnw gael ei adolygu’n flynyddol mewn ymgynghoriad â’r bwrdd lleol diogelu plant. Darperir templed i helpu.

 

Bydd Cyfarwyddyd Gwasanaeth Carchardai 08/2012[15], sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2016 a bydd yn cael ei adolygu a’i ailgyhoeddi yng Nghymru i adlewyrchu’r newidiadau statudol a gyflwynwyd trwy Ddeddf 2014. Mae newidiadau allweddol yn cynnwys y ffaith na fydd llywodraethwyr sefydliadau troseddwyr ifanc yn bartner bwrdd diogelu penodol mwyach ac y bydd byrddau lleol diogelu plant yn cael eu disodli gan fyrddau diogelu plant ym mis Ebrill 2016. Rhaid i fyrddau diogelu a llywodraethwyr gynnal y gofynion presennol hyn o leiaf wrth ddisgwyl canlyniad yr adolygiad sydd wedi ei drefnu o’r Cyfarwyddyd Gwasanaeth Carchardai.

 

Agweddau ar Ofal

 

Gofal Diwedd Oes

 

Bydd y ddarpariaeth gofal diwedd oes yn ymestyn i’r rhai sy’n cyrraedd diwedd eu hoes tra’u bod mewn sefydliad diogel. Bydd rhai unigolion yn cael eu trosglwyddo i ysbyty, hosbis, cartref gofal neu garchar arall i gael gofal lliniarol mewn amgylchedd mwy addas. Fel arfer, nid yw mangre a gymeradwywyd yn lleoliad addas i ddarparu gofal diwedd oes. 

 

O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y cyfrifoldeb dros ofal a thriniaeth yn cael ei drosglwyddo i’r GIG, ond rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn os yw’r unigolyn hwnnw yn bodloni’r meini prawf sydd wedi’u sefydlu ar gyfer absenoldeb dros dro o sefydliad diogel. Pe bai’r unigolyn yn cael ei ryddhau am resymau tosturiol, byddai’r trefniadau gofal a chymorth yn symud gyda’r unigolyn yn yr un modd ag unrhyw drefniadau rhyddhau eraill.

 

Dylai awdurdodau lleol weithio gyda staff y carchar a’r darparwr gofal iechyd i sicrhau bod anghenion gofal a chymorth yr unigolyn yn cael eu diwallu er mwyn cefnogi ei ofal diwedd oes.

 

Gofal Iechyd Parhaus y GIG

 

Pecyn o ofal parhaus sy’n cael ei drefnu a’i ariannu gan y gwasanaeth iechyd ar gyfer unigolion y tu allan i safle ysbyty sydd ag anghenion iechyd parhaus cymwys yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Mae byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn gyfrifol am ddarparu gofal iechyd parhaus i’r rhai mewn sefydliadau diogel yn yr un modd ag y byddent yn ei wneud i’r rhai sy’n byw yn y gymuned. Rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda’r byrddau iechyd lleol i sicrhau bod anghenion gofal a chymorth y rhai sy’n derbyn gofal iechyd parhaus yn cael eu diwallu.

 

Rhannu Gwybodaeth

 

Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod y wybodaeth a gedwir am blant ac oedolion yn cael ei chadw’n ddiogel. Rhaid i awdurdodau lleol ddatblygu cytundebau sy’n gyson â pholisïau a gweithdrefnau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a NOMS a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.

 

Mae’r cod hwn yn ardystio argymhellion Caldicott 2[16] sy’n nodi y dylai fod yna ragdybiaeth o blaid rhannu gofal uniongyrchol unigolyn ac y dylai’r esemptiadau gael eu hesbonio’n drylwyr, yn hytrach nag i’r gwrthwyneb. Dylai’r arwyddair ar gyfer gwell gwasanaethau gofal fod fel a ganlyn: er mwyn gofalu’n briodol, rhaid i chi rannu’n briodol.

 

Rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda NOMS/Timau Troseddau Ieuenctid i ddarparu gwybodaeth efallai y gofynnir amdani er mwyn cwblhau adroddiadau cyn-dedfrydu sy’n ofynnol gan y llysoedd. Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu’r wybodaeth cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn y cais.

 

Rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda’u partneriaid i sicrhau bod gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod rhywun yn cael ei rhannu o fewn egwyddorion Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI)[17]. Mae byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau lleol yng Nghymru wedi llofnodi’r protocol hwn ac mae’r trefniadau hyn yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998.

 

Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod eu staff yn derbyn cymorth a hyfforddiant priodol mewn rhannu gwybodaeth a chydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998. Rhaid i staff sy’n defnyddio’r data fod wedi’u hyfforddi mewn trafod data ac yn ymwybodol o faterion diogelwch. Rhaid i unigolion a theuluoedd gael gwybod am y trefniadau rhannu gwybodaeth ar ddechrau’r asesiad a’r broses cynllunio gofal a chymorth.

 

Codi Ffioedd

 

Os na fydd darpariaethau o fewn y Ddeddf yn cael eu datgymhwyso neu eu newid, byddant yn berthnasol yn yr un modd i’r rhai mewn sefydliadau diogel ag i unrhyw berson arall yn y gymuned.

 

Er enghraifft, bydd y ffioedd a godir ar gyfer gofal a chymorth y rhai sy’n cael eu cadw yr un fath ag ar gyfer unrhyw ddinesydd arall lle mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am ofal a chymorth yr unigolyn. Felly, er efallai bod amgylchiadau ariannol y rhai sy’n cael eu cadw yn wahanol i amgylchiadau’r boblogaeth gyffredinol oherwydd lle maent yn cael eu cadw, dylent gael eu hasesu’n ariannol at ddibenion codi ffioedd yn yr un modd â phawb arall.

 

O dan y Ddeddf, ni ellir codi ffioedd ar blentyn. Gall ffioedd sy’n ymwneud â gofal a chymorth plentyn gael eu cyflwyno i riant y plentyn (ond dim ond os yw’r rhiant dros 18 oed). Rhaid i awdurdodau lleol cartref yng Nghymru sydd â chyfrifoldeb dros blant mewn sefydliadau diogel gydymffurfio â’r trefniadau hyn.

 

Mae canllawiau pellach ar hyn ar gael yn y Cod Ymarfer ar Godi Ffioedd ac Asesiadau Ariannol o dan Rannau 4 a 5 o’r Ddeddf.

 

Cwynion

 

Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth i’r rhai sydd yn y ddalfa am sut i wneud cwyn a cheisio cael iawndal am wasanaethau gofal a chymorth a ddarparwyd. Rhaid i reolwyr dalfeydd hysbysu awdurdodau lleol bod carcharor am wneud cwyn cyn gynted ag y byddant yn ymwybodol o hynny.

 

Mae canllawiau pellach ar gael yn y Cod Ymarfer ar Gwynion, Sylwadau a Gwasanaethau Eirioli o dan Ran 10 o’r Ddeddf.

 

Arolygiaethau ac ymchwiliadau

 

Mae’r Ombwdsmon Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf yn cynnal ymchwiliadau mewn cyfleusterau oedolion a phobl ifanc yn dilyn cwynion am wasanaethau carchar, yn ogystal â marwolaethau yn y ddalfa a digwyddiadau arwyddocaol eraill. Bydd yr Ombwdsmon Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf yn comisiynu’r corff perthnasol i helpu eu hymchwiliadau os ystyrir bod agwedd ar ofal a chymorth wedi cyfrannu at y digwyddiad. Dylai awdurdodau lleol gydweithredu a mynd i unrhyw gwestau a gynhelir yn dilyn marwolaeth yn y ddalfa os gofynnir iddynt wneud hynny neu os oes ganddynt wybodaeth berthnasol. Dylai awdurdodau lleol gydweithredu gydag unrhyw ymchwiliad fel sy’n ofynnol.

 

Mae carchardai a gwasanaethau prawf yn cael eu harolygu gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi. Yng Nghymru, mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Iechyd Cymru yn cydweithredu ag Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi i gyfrannu at yr arolygiadau hyn. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod unrhyw asesiadau perthnasol a dogfennau eraill ar gael i gyrff arolygu fel rhan o unrhyw arolygiad o’r fath. 

 

Bydd awdurdodau lleol yn derbyn copïau o adroddiadau arolygu sy’n berthnasol iddynt. Bydd yn arfer da i awdurdodau lleol gyfrannu at yr ymatebion a’r cynlluniau gweithredu mewn cydweithrediad â NOMS, darparwyr gofal iechyd a chomisiynwyr. 

 

Trefniadau Pontio ar ôl 2016

 

Bydd Deddf 2014 yn dod i rym ym mis Ebrill 2016 a bydd awdurdodau lleol yn ceisio gweithredu’r trefniadau newydd o’r dyddiad hwnnw ymlaen. Bydd angen i gynlluniau gweithredu a ddatblygir gan awdurdodau lleol ystyried eu dyletswyddau tuag at y rhai mewn sefydliadau diogel a sicrhau eu bod yn gallu ymateb yn briodol ac mewn ffordd a reolir o fis Ebrill 2016 ymlaen.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

PENNOD 2: PRESWYLFA ARFEROL A DATRYS ANGHYDFODAU

 

Cyflwyniad

 

Nod a chwmpas

 

Mae’r bennod hon yn rhoi sylw i’r canlynol:

·         pennu preswylfa arferol mewn perthynas ag asesu a diwallu anghenion gofal a chymorth cymwys

·         pennu preswylfa arferol pan fo oedolyn yn symud i fathau penodol o lety y tu allan i’r ardal

·         anghydfodau rhwng awdurdodau ynglŷn â phreswylfa arferol person a hygludedd gofal a chymorth, a’r broses o geisio cael penderfyniad gan Weinidogion Cymru neu berson penodedig.

 

Mae’r egwyddorion sy’n llywodraethu’r broses o leoli oedolion mewn rhannau eraill o’r DU (lleoliadau trawsffiniol), a’r gweithdrefnau ar gyfer datrys anghydfodau a all godi mewn perthynas â’r egwyddorion hynny, yn debyg i’r rhai ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir yng Nghymru. Mae canllawiau ar leoliadau trawsffiniol ynghlwm wrth y cod ymarfer hwn yn Atodiad 4.   

 

 

Cyd-destun a diben

 

Preswylfa arferol

 

Mae preswylfa arferol yn gysyniad allweddol wrth bennu pa awdurdod lleol sydd â dyletswydd i asesu a diwallu anghenion gofal a/neu gymorth unigolyn o dan Rannau 3, 4 a 6 o’r Ddeddf. Mae rheoliadau a wnaed o dan Ran 11 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau ychwanegol ar breswylfa arferol, yn ymwneud â llety penodedig a datrys anghydfodau.   

 

Os credir bod gan oedolyn anghenion gofal a chymorth, mae adran 19 yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r awdurdod lleol asesu a oes gan yr oedolyn anghenion o’r fath ac, os felly, beth yw’r anghenion hynny. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i unrhyw oedolyn sydd fel arfer yn byw yn ardal yr awdurdod ac i unrhyw oedolyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

 

Mae adran 21 yn gwneud gofynion tebyg mewn perthynas â phlant.

 

Os credir bod gan ofalwr anghenion cymorth, mae adran 24 yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r awdurdod lleol asesu a oes gan y gofalwr anghenion o’r fath (neu a yw’n debygol y bydd ganddo anghenion o’r fath yn y dyfodol) ac, os felly, beth yw’r anghenion hynny (neu beth maent yn debygol o fod). Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i unrhyw ofalwr sy’n darparu neu sy’n debygol o ddarparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl sydd fel arfer yn byw yn ardal yr awdurdod, neu i unrhyw oedolyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

 

Os yw anghenion gofal a chymorth oedolyn yn bodloni’r meini prawf cymhwystra (neu os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod angen diwallu’r anghenion hynny er mwyn amddiffyn yr oedolyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu wynebu’r risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso), mae adran 35 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ddiwallu’r anghenion hynny os yw’r oedolyn fel arfer yn byw yn ardal yr awdurdod lleol neu os nad oes ganddo breswylfa sefydlog a’i fod o fewn ardal yr awdurdod.

 

Os yw anghenion cymorth oedolyn sy’n ofalwr yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, mae adran 40 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ddiwallu’r anghenion hynny os yw’r person sy’n derbyn gofal gan y gofalwr yn oedolyn sydd fel arfer yn byw yn ardal yr awdurdod lleol, neu os nad oes ganddo breswylfa sefydlog o fewn ardal yr awdurdod, neu os yw’r person sy’n derbyn gofal yn blentyn anabl o fewn ardal yr awdurdod lleol. Mae adran 42 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â diwallu anghenion cymorth plentyn sy’n ofalwr.

 

Nid yw preswylfa arferol yn un o amodau’r ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn. Mae adran 37 yn nodi bod rhaid i’r plentyn fod o fewn ardal yr awdurdod lleol a bod ei anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra neu fod yr awdurdod lleol o’r farn bod angen diwallu ei anghenion er mwyn amddiffyn y plentyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed (neu wynebu’r risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed).

 

O dan adran 76 o Ddeddf 2014 (lletya plant heb rieni neu sydd ar goll neu wedi eu gadael ac ati), mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal sy’n bodloni’r meini prawf yn adran 76(1). Fodd bynnag, os yw awdurdod lleol yn darparu llety o dan yr adran hon ar gyfer plentyn a oedd fel arfer yn byw yn ardal awdurdod lleol arall (cyn i’r awdurdod ddechrau gofalu am y plentyn), gall adennill gan yr awdurdod lleol arall hwnnw unrhyw dreuliau rhesymol a ddaeth i’w ran o ganlyniad i ddarparu’r llety a chynnal y plentyn (gweler adran 193 o Ddeddf 2014).

 

Wrth bennu preswylfa arferol plentyn at ddibenion Deddf 2014, mae adran 194(6) yn nodi na ddylid ystyried preswylfa’r plentyn yn y llefydd canlynol:

·         ysgol neu sefydliad arall

·         rhywle mae’r plentyn yn cael ei leoli yn unol â gofynion gorchymyn goruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989 neu yn unol â gofynion gorchymyn adsefydlu ieuenctid o dan Ran 1 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008

·         llety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yng Nghymru (neu awdurdod lleol yn Lloegr). 

 

Mae hyn yn golygu os yw awdurdod lleol yn darparu llety i blentyn o dan adran 76 a’i fod yn ceisio adennill y costau o ddarparu’r llety hwnnw gan yr awdurdod lleol yr oedd y plentyn fel arfer yn byw yn ei ardal cyn i’r awdurdod ddechrau gofalu am y plentyn, bydd y cwestiwn ynglŷn â lle’r oedd y plentyn fel arfer yn byw yn cael ei bennu heb ystyried ei breswylfa ar y pryd, os yw’r breswylfa honno’n un o’r llefydd a restrir yn adran 194(6).

 

Os yw plentyn sy’n derbyn gofal yn destun gorchymyn gofal, yr awdurdod lleol a ddynodwyd gan y llys adeg gwneud y gorchymyn gofal fydd yn gyfrifol am ddarparu llety i’r plentyn. Yr awdurdod y mae’r plentyn fel arfer yn byw yn ei ardal neu, os nad yw’r plentyn yn byw yn ardal awdurdod lleol, yr awdurdod y cododd unrhyw amgylchiadau y mae’r gorchymyn yn cael ei wneud o ganlyniad iddynt yn ei ardal, fydd yr awdurdod lleol dynodedig (gweler adran 31(8) o Ddeddf Plant 1989).

 

Bydd adran 105(6) o Ddeddf Plant 1989 yn berthnasol os oes yna gwestiwn ynglŷn â lle'r oedd plentyn fel arfer yn byw at ddiben penderfynu pa awdurdod yw’r awdurdod lleol dynodedig o dan adran 31(8). Mae adran 105(6) o Ddeddf 1989 yn gwneud darpariaeth debyg i’r ddarpariaeth yn adran 194(6) o’r Ddeddf, sef y bydd preswylfa’r plentyn mewn llefydd penodol yn cael ei diystyru wrth bennu preswylfa arferol y plentyn at y diben hwn.

 

Mae adran 194(1) yn ymdrin â sut y penderfynir lle mae oedolyn fel arfer yn byw, os bydd yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth yn gwneud trefniadau i’r oedolyn fyw mewn math penodol o lety. O ganlyniad i’r trefniadau hyn, gall yr oedolyn symud i ardal arall. Yn y sefyllfa hon, effaith y ddarpariaeth hon yw y bydd yr oedolyn yn cael ei drin, at ddibenion y Ddeddf hon, fel petai fel arfer yn byw yn ardal yr awdurdod lleol a wnaeth y trefniadau (ac nid yn yr ardal y mae’n symud iddi).

 

Mae adran 194(2) yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau ar y mathau o lety y mae’r ddarpariaeth hon yn berthnasol iddynt. 

 

Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Preswylfa Arferol) (Llety Penodedig) (Cymru) 2015 yn nodi y bydd adran 194(1) yn berthnasol i lety cartref gofal. Mae’r darpariaethau hyn yn cwmpasu oedolion ag anghenion gofal a chymorth sy’n byw mewn llety o’r fath yng Nghymru. 

 

Os gwneir trefniadau i’r oedolyn gael ei letya yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, bydd y darpariaethau yn Atodlen 1 i Ddeddf Gofal 2014 yn berthnasol. Mae canllawiau ar leoliadau trawsffiniol a’r defnydd o Atodlen 1 yn Atodiad 4. Mae Canllawiau Ymarfer ar leoliadau trawsffiniol yn cael eu paratoi gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth (SCIE), ac fe’u cyhoeddir ar ei wefan. 

 

Datrys anghydfodau

 

Mae’r darpariaethau yn Rhan 11 o Ddeddf 2014 ar ddatrys anghydfodau yn cwmpasu anghydfodau rhwng awdurdodau lleol ynghylch preswylfa arferol, hygludedd gofal a chymorth a methiant darparwr o dan Ddeddf 2014. Maent yn cwmpasu hefyd anghydfodau ynghylch preswylfa arferol o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1987. 

 

Mae adran 195 yn gwneud darpariaeth ar gyfer datrys anghydfodau rhwng awdurdodau lleol ynghylch preswylfa arferol at ddibenion Deddf 2014, neu rhwng awdurdod anfon ac awdurdod derbyn ynghylch y defnydd o adran 56 o Ddeddf 2014 (hygludedd gofal a chymorth). Mae’r darpariaethau hyn yn cwmpasu preswylfa arferol ac anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorth rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru yn unig. Mae adran 195(2) yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau sy’n llywodraethu’r ffordd mae anghydfodau o’r fath yn cael eu trafod.  

 

Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) (Cymru) 2015 yn nodi’r gweithdrefnau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn wrth drafod anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorth. 

 

Mae adran 189(8) (ar fethiant darparwr) yn nodi y dylai unrhyw anghydfod ynghylch y defnydd o adran 189 gael ei bennu o dan adran 195 fel petai’n un o’r mathau o anghydfod a nodir yn adran 195(1). Felly, mae’r rheoliadau o dan adran 195(2) yn berthnasol hefyd i anghydfodau ynghylch cydweithredu a chostau sy’n codi o dan y ddyletswydd dros dro.

 

Yn ôl adran 117(4) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (fel y’i gosodwyd gan adran 75 o Ddeddf Gofal 2014), os oes yna anghydfod ynghylch lle’r oedd person fel arfer yn byw at ddiben adran 117(3), ac os yw’r anghydfod rhwng awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru, mae adran 195 o’r Ddeddf yn berthnasol i’r anghydfod yn yr un modd ag y mae’n berthnasol i anghydfod ynghylch lle’r oedd person fel arfer yn byw at ddibenion y Ddeddf.

 

Mae’r rheoliadau a’r cod ymarfer hwn yn disodli’r canllawiau statudol ar breswylfa arferol a gyhoeddwyd ym 1993 (WOC 41/93 / LASS 5/133/10). 

 

Preswylfa Arferol

 

Mae lle mae person fel arfer yn byw yn hollbwysig o ran penderfynu pa awdurdod lleol ddylai ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth. ‘Preswylfa arferol’ yw un o’r profion allweddol y mae’n rhaid eu cyflawni i sefydlu a oes rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion cymwys person. Felly, mae’n hollbwysig bod awdurdodau lleol yn sefydlu, ar yr adeg briodol, a yw person fel arfer yn byw yn eu hardal, ac a yw dyletswyddau o’r fath yn codi. 

 

Mae’r prawf preswylfa arferol yn cael ei roi ar waith yn wahanol mewn perthynas ag oedolion ag anghenion gofal a chymorth a gofalwyr. Ar gyfer oedolion ag anghenion gofal a chymorth, yr awdurdod lleol y mae’r oedolyn fel arfer yn byw yn ei ardal fydd yn gyfrifol am ddiwallu ei anghenion cymwys. Ar gyfer gofalwyr, yr awdurdod lle mae’r oedolyn y maent yn gofalu amdano fel arfer yn byw fydd yr awdurdod lleol cyfrifol. Felly, er mwyn pennu pwy sy’n gyfrifol am ddarparu cymorth i ofalwyr, mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried preswylfa arferol yr oedolyn sydd angen gofal a chymorth.

 

Ni ddylai’r gwaith o bennu preswylfa arferol ohirio’r broses o asesu a phennu anghenion cymwys, ac ni ddylai chwaith atal yr awdurdod lleol rhag diwallu anghenion y person. Mewn achosion lle nad yw’r breswylfa arferol yn sicr, dylai’r awdurdod lleol ddiwallu anghenion yr unigolyn yn gyntaf, cyn mynd ati i ateb y cwestiwn ynglŷn â’i breswylfa arferol. Mae hyn yn hynod berthnasol os oes anghydfod rhwng dau awdurdod lleol neu fwy.

 

Sut i bennu preswylfa arferol

 

Nid oes diffiniad o ‘breswylfa arferol’ yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, felly dylid defnyddio ei ystyr arferol a naturiol. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae sefydlu preswylfa arferol person yn fater syml. Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau, ni fydd hi mor syml pennu lle mae person fel arfer yn byw (er enghraifft, pan fo pobl yn treulio eu hamser mewn mwy nag un ardal, neu’n symud rhwng ardaloedd). Os oes yna ansicrwydd, dylai awdurdodau lleol ystyried pob achos yn unigol.

 

Mae’r cysyniad o breswylfa arferol yn cynnwys cwestiynau o ffaith a graddau. Rhaid ystyried ffactorau megis amser, bwriad a pharhad (ac efallai y bydd ganddynt wahanol bwys yn dibynnu ar y cyd-destun). Mae’r llysoedd wedi ystyried ystyr ‘preswylfa arferol’, a’r prif achos yw Shah v. London Borough of Barnet (1983). Yn yr achos hwn, dywedodd yr Arglwydd Scarman:

 

unless … it can be shown that the statutory framework or the legal context in which the words are used requires a different meaning I unhesitatingly subscribe to the view that “ordinarily resident” refers to a man’s abode in a particular place or country which he has adopted voluntarily and for settled purposes as part of the regular order of his life for the time being, whether of short or long duration.

 

Dylai awdurdodau lleol roi sylw i’r achos hwn wrth bennu preswylfa arferol pobl sy’n gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â lle y maent am fyw. (Gweler isod am ganllawiau ar bennu preswylfa arferol os nad yw’r person yn gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â’i lety.)

 

Yn arbennig, dylai awdurdodau lleol ddefnyddio’r egwyddor mai’r breswylfa arferol yw’r lle y mae’r person wedi’i fabwysiadu’n wirfoddol at ddiben sefydlog, boed hynny am dymor byr neu hir. Gall preswylfa arferol gael ei chaffael cyn gynted ag y bydd y person yn symud i ardal, os yw’r symud yn wirfoddol ac at ddibenion sefydlog, waeth a yw’n berchen ar eiddo, neu â diddordeb mewn eiddo, yn ardal awdurdod lleol arall. Nid oes rhaid i berson fyw mewn man penodol am gyfnod penodol cyn yr ystyrir ei fod fel arfer yn byw yno, gan ei fod yn dibynnu ar natur ac ansawdd y cysylltiad â’r lle newydd.

 

Achosion lle nad oes gan berson alluedd

 

Dylai pob mater yn ymwneud â galluedd meddyliol gael ei benderfynu trwy gyfeirio at Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (“Deddf 2005”) a’r cod ymarfer cysylltiedig o dan y Ddeddf hon. Dylid rhagdybio bod gan oedolion y galluedd i wneud eu penderfyniadau eu hunain, gan gynnwys penderfyniadau yn ymwneud â’u llety a’u gofal, oni bai bod y gwrthwyneb eisoes wedi’i sefydlu.

 

Mae’r prawf galluedd yn benodol i bob penderfyniad ar yr adeg y mae angen ei wneud, ac efallai y bydd person yn gallu gwneud rhai penderfyniadau, ond nid rhai eraill. Nid oes angen i berson ddeall trefniadau ariannu awdurdod lleol i allu penderfynu lle y mae am fyw. 

 

Os oes modd dangos nad yw person yn gallu gwneud penderfyniad penodol, mae Deddf 2005 yn ei gwneud hi’n glir pwy all wneud penderfyniadau ar ran pobl eraill, ym mha sefyllfaoedd a sut y dylent fynd ati i wneud hyn. Er enghraifft, os na fydd person yn gallu penderfynu lle i fyw, dylai penderfyniad ‘lles pennaf’ gael ei wneud ynglŷn â’i lety o dan Ddeddf 2005. O dan adran 1(5) o Ddeddf 2005, rhaid i unrhyw weithred neu benderfyniad a wneir (gan gynnwys penderfyniad yn ymwneud â lle y dylai person heb alluedd fyw) fod er lles pennaf y person heb alluedd. Mae adran 4 o Ddeddf 2005 yn esbonio sut i bennu lles pennaf person heb alluedd, ac yn darparu rhestr wirio. 

 

 

21.       Gall anawsterau godi wrth ddefnyddio prawf Shah mewn achosion lle nad oes gan oedolyn y galluedd i benderfynu lle i fyw. Yn yr achosion hyn, mae gwahanol gyfraith achosion yn berthnasol. Er enghraifft, amlinellodd achos R. v Waltham Forest LBC Ex p Vale ymagwedd dwy ran at ddefnyddio prawf Shah mewn perthynas â pherson sy’n methu â gwneud penderfyniadau. Yn ddiweddar, esboniodd y Goruchaf Lys fod yr ymagweddau hyn yn golygu defnyddio synnwyr cyffredin wrth ddefnyddio prawf Shah mewn perthynas â ffeithiau anghyffredin yr achos.[18]  

 

Pobl heb breswylfa sefydlog

 

Os oes amheuaeth ynglŷn â phreswylfa arferol person, fel arfer bydd hi’n bosibl i awdurdodau lleol benderfynu bod y person wedi byw mewn un lle am gyfnod digon hir, neu fod ganddo fwriadau digon cadarn mewn perthynas â’r lle hwnnw, i gaffael preswylfa arferol yno. Felly, dim ond o dan amgylchiadau prin y bydd awdurdodau lleol yn dod i’r casgliad nad oes gan rywun breswylfa sefydlog. Er enghraifft, os bydd person wedi gadael ei breswylfa flaenorol a symud i rywle arall dros dro, a bod ei amgylchiadau wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw, gall awdurdod lleol ddod i’r casgliad nad oes gan y person breswylfa sefydlog.

 

Mae adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud hi’n glir bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddiwallu anghenion oedolion os ydynt yn bresennol yn eu hardal ond nad oes ganddynt breswylfa sefydlog a bod yr amodau eraill yn cael eu bodloni. Mae adrannau 40 a 42 o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â’r dyletswyddau i ddiwallu anghenion gofalwyr oedolion. Yn hyn o beth, dylai oedolion nad oes ganddynt breswylfa sefydlog, ond sy’n bresennol yn gorfforol yn ardal yr awdurdod lleol, gael eu trin yr un fath â’r rhai sydd fel arfer yn byw yn yr ardal.

 

Gall awdurdod lleol ddod i’r casgliad nad oes gan berson sy’n cyrraedd o dramor breswylfa sefydlog, gan gynnwys y bobl hynny sy’n dychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod yn byw dramor ac sydd wedi ildio eu cartref blaenorol yn y wlad hon.

Preswylfa arferol wrth drefnu llety mewn ardal arall

Bydd yna rai achosion lle bydd yr awdurdod lleol o’r farn y gellid diwallu anghenion gofal a chymorth person trwy ddarparu llety yn ardal awdurdod arall. Os bydd gan y person anghenion sydd ond yn gallu cael eu diwallu trwy fathau penodol o lety, bydd gan y person hwnnw yr hawl i wneud dewis ynglŷn â’i lety, yn ogystal â chymryd rhan yn y broses gynllunio. Mae’r hawl hon yn galluogi’r person i wneud dewis ynglŷn â mathau penodol o lety, gan gynnwys lle mae’r llety hwn wedi’i leoli yn ardal awdurdod arall. Cyn belled â bod amodau penodol yn cael eu bodloni, rhaid i’r awdurdod lleol drefnu’r llety y mae’r person wedi’i ddewis. (Gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015 a’r codau ymarfer mewn perthynas â Rhannau 4 a 5 ar daliadau uniongyrchol, dewis o lety, asesiad ariannol a chodi ffioedd).   

Bydd hyn yn golygu y bydd hi’n ofynnol i awdurdodau lleol, o dan rai amgylchiadau, drefnu llety a leolir mewn ardal wahanol. Yn ogystal, bydd yna sefyllfaoedd eraill lle bydd awdurdod lleol yn dewis trefnu llety i berson mewn ardal arall gan fod hynny wedi’i gytuno gyda’r person dan sylw. Mewn achos o’r fath, dylai fod yn glir pa awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am ddiwallu anghenion y person yn y dyfodol.

 

Mae adran 194(1) i (3) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a’r rheoliadau a wnaed oddi tani, yn amlinellu lle yr ystyrir y mae oedolyn fel arfer yn byw os yw ei anghenion gofal a chymorth ond yn gallu cael eu diwallu os yw’n byw mewn llety penodol. Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2015 yn nodi bod hyn yn berthnasol i lety cartref gofal yn unig – h.y. llety o fewn ystyr adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

 

Mae hyn yn golygu, os oes gan oedolyn anghenion sydd ond yn gallu cael eu diwallu trwy ddarparu llety cartref gofal, ac os trefnir y llety yn ardal awdurdod lleol arall, bod yr egwyddor o “farnu” preswylfa arferol yn berthnasol. Felly, bydd yr oedolyn yn cael ei drin fel petai’n dal i fyw yn yr ardal lle’r oedd yn byw cyn i’r lleoliad ddechrau. Canlyniad hyn yw y bydd yr awdurdod lleol sy’n trefnu’r llety yn dal i fod yn gyfrifol am ddiwallu anghenion y person, ac ni fydd y cyfrifoldeb yn trosglwyddo i’r awdurdod y mae’r llety wedi’i leoli yn ei ardal. Bydd cyfrifoldeb yr awdurdod ‘lleoli’ yn parhau fel hyn cyhyd ag y bydd anghenion yr oedolyn yn cael eu diwallu gan y math penodedig o lety.

 

Mae’r egwyddor o “farnu” preswylfa arferol yn berthnasol fel arfer pan fydd yr awdurdod lleol yn darparu neu’n trefnu’r llety yn uniongyrchol. Fodd bynnag, mae’r egwyddor yn berthnasol hefyd lle mae person yn derbyn taliad uniongyrchol ac yn trefnu ei ofal a’i gymorth ei hun. Mewn achosion o’r fath, yr unigolyn fydd yn dewis sut y bydd ei anghenion yn cael eu diwallu, ac yn trefnu ei ofal a’i gymorth ei hun. Os yw’r cynllun gofal a chymorth yn nodi y bydd anghenion y person ond yn gallu cael eu diwallu os yw’r oedolyn yn byw mewn llety cartref gofal, ac os yw’r person yn dewis trefnu’r llety hwnnw yn ardal awdurdod lleol gwahanol i’r un sy’n gwneud y taliad uniongyrchol, bydd yr un egwyddor yn berthnasol – h.y. bydd yr awdurdod lleol sy’n diwallu anghenion gofal a chymorth y person trwy wneud taliad uniongyrchol yn cadw’r cyfrifoldeb. Fodd bynnag, os dewisodd y person lety sydd y tu allan i’r hyn a nodir yn y cynllun gofal a chymorth neu fath o lety na nodwyd yn y rheoliadau (er enghraifft, os yw’r person yn symud i mewn i drefniant bywydau a rennir neu lety byw â chymorth), ni fyddai’r egwyddor o “farnu” yn berthnasol.

 

Os bydd awdurdod lleol yn trefnu i leoli unigolyn mewn llety cartref gofal, neu’n dod yn ymwybodol bod unigolyn â thaliad uniongyrchol wedi gwneud hynny ei hun, dylai’r awdurdod hysbysu’r awdurdod lletya i sicrhau ei fod yn ymwybodol o’r person yn ei ardal. Dylai’r awdurdod cyntaf sicrhau bod trefniadau boddhaol yn cael eu gwneud cyn i’r llety ddechrau ar gyfer unrhyw wasanaethau cymorth angenrheidiol a ddarperir yn lleol, megis gofal dydd, a bod cytundebau clir ar waith i ariannu pob agwedd ar ofal a chymorth y person.

 

Yn ymarferol, gall yr awdurdod lleol cyntaf lunio cytundebau i alluogi’r awdurdod lle lleolir y llety i gyflawni swyddogaethau ar ei ran. Mae hyn yn arbennig o berthnasol os lleolir y llety cryn bellter i ffwrdd, a gall rhai swyddogaethau gael eu cyflawni’n fwy effeithiol yn lleol. Gall awdurdodau lleol wneud trefniadau i ad-dalu i’w gilydd unrhyw gostau sy’n codi trwy gytundebau o’r fath. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol ystyried eu rhwymedigaethau parhaus tuag at yr unigolyn wrth drefnu’r mathau hyn o lety.

 

Ar adegau, efallai y bydd darparwr yn dewis newid y math o ofal y mae’n ei ddarparu - er enghraifft, dadgofrestru eiddo fel cartref gofal ac ailgynllunio’r gwasanaeth fel cynllun byw â chymorth. O dan yr amgylchiadau hyn, dylai’r awdurdod lleoli (h.y. yr awdurdod lleol lle bernir bod y person fel arfer yn byw) ailasesu anghenion gofal a chymorth yr unigolyn i bennu a allai ei anghenion gael eu diwallu gan y gwasanaeth newydd neu a fydd ei anghenion ond yn gallu cael eu diwallu trwy lety mewn cartref gofal. Os pennir y gallai anghenion yr unigolyn gael eu diwallu orau trwy aros gyda’r gwasanaeth newydd, ac os bydd yr unigolion yn dewis aros yn y lleoliad hwnnw, bydd statws yr unigolyn yn newid o fod yn breswylydd cartref gofal i fod yn denant mewn llety byw â chymorth. Felly, bydd preswylfa arferol yr unigolyn wedi newid a bydd y cyfrifoldeb dros ddiwallu ei anghenion gofal a chymorth yn trosglwyddo i’r awdurdod lleol lle mae’r unigolyn yn byw. Os penderfynir, yn dilyn ailasesiad, y bydd anghenion y person ond yn gallu cael  eu diwallu trwy lety mewn cartref gofal, bydd angen i’r awdurdod lleol lleoli drefnu lleoliad cartref gofal gwahanol ar gyfer y person hwnnw. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y darpariaethau barnu yn dal i fod yn berthnasol a bydd y cyfrifoldeb dros ddiwallu anghenion gofal a chymorth y person hwnnw yn aros gyda’r awdurdod lleoli.    

 

Llety’r GIG

 

Pan fydd person yn mynd i’r ysbyty, neu lety arall sy’n rhan o’r GIG, efallai y bydd yna gwestiynau ynglŷn â lle y mae fel arfer yn byw, yn enwedig os bydd yn cael ei ryddhau i ardal awdurdod lleol arall. Am y rheswm hwn, mae adran 194 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ei gwneud hi’n glir beth ddylai ddigwydd o dan yr amgylchiadau hyn.

 

Dylai person y darperir llety’r GIG ar ei gyfer gael ei drin fel petai fel arfer yn byw yn yr awdurdod lleol lle’r oedd yn byw cyn i lety’r GIG gael ei ddarparu. Mae hyn yn golygu os bydd person, er enghraifft, yn mynd i’r ysbyty, bydd yn cael ei drin fel petai fel arfer yn byw yn yr ardal lle’r oedd yn byw cyn iddo fynd i’r ysbyty. Mae hyn yn berthnasol faint bynnag y bydd y person yn aros yn yr ysbyty, ac mae’n golygu na fydd y cyfrifoldeb dros ofal a chymorth y person yn trosglwyddo i ardal yr ysbyty, os yw’r ardal honno’n wahanol i’r ardal lle’r arferai’r person fyw.

 

Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol hefyd i lety’r GIG mewn rhan arall o’r DU. Os bydd person sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn mynd i’r ysbyty yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, bydd ei breswylfa arferol yn dal i fod yng Nghymru (yn yr awdurdod lleol lle’r oedd yn byw cyn iddo fynd i’r ysbyty) at ddibenion cyfrifoldeb dros ofal a chymorth yr oedolyn.

 

Pecyn o ofal sy’n cael ei drefnu a’i ariannu gan y GIG yn unig yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG, ac fe’i defnyddir os asesir mai angen iechyd yw prif angen yr unigolyn. Mewn achosion lle asesir bod pobl yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus a lle cânt eu lleoli, neu lle maent eisoes wedi’u lleoli, mewn cartref gofal y tu allan i’w hardal, bydd y Bwrdd Iechyd Lleol lleoli yn dal i fod yn gyfrifol am ariannu, monitro ac adolygu’r lleoliad cartref gofal.

 

Os lleolir person mewn cartref gofal ond nad yw’n gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus, y BILl derbyn, neu’r Clinical Commissioning Group (CCG) yn Lloegr, fydd yn gyfrifol am ariannu Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG. Bydd canllawiau ar drefniadau trawsffiniol lle mae person yn gymwys i gael Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG yn y Canllawiau Ymarfer a gyhoeddwyd gan SCIE.

 

Ôl-ofal iechyd meddwl

 

O dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, mae gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal iechyd meddwl i bobl sy’n cael eu cadw yn yr ysbyty i gael triniaeth o dan adrannau penodol o Ddeddf 1983 ac sydd angen gwasanaethau o’r fath. Rhaid i’r gwasanaethau hyn ddiwallu angen sy’n codi o ganlyniad i anhwylder meddwl y person a lleihau’r risg y bydd cyflwr meddyliol person yn dirywio a lleihau’r risg y bydd rhaid i’r person ddychwelyd i’r ysbyty i gael triniaeth ar gyfer anhwylder meddwl. Mae ystod y gwasanaethau y gellir eu darparu yn eang.

 

Bydd y ddyletswydd ar awdurdodau lleol i gomisiynu neu ddarparu ôl-ofal iechyd meddwl yn cael ei chyflawni gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle’r oedd y person dan sylw fel arfer yn byw cyn iddo gael ei gadw o dan Ddeddf 1983, hyd yn oed os bydd y person yn byw mewn ardal arall pan fydd yn cael ei gadw neu ar ôl gadael yr ysbyty. Gall yr awdurdod lleol cyfrifol newid os oedd y person fel arfer yn byw mewn ardal arall cyn cyfnod cadw a fyddai’n gofyn am wasanaethau ôl-ofal adran 117.

 

Sefyllfaoedd cyffredin eraill

 

Absenoldebau dros dro

 

Ar ôl sefydlu preswylfa arferol mewn man penodol, ni ddylai hyn gael ei effeithio os bydd yr unigolyn yn cymryd absenoldeb dros dro o’r ardal. Mae’r llysoedd wedi nodi na ddylai absenoldebau dros dro neu ddamweiniol (gan gynnwys, er enghraifft, gwyliau neu ymweliadau ag ysbyty mewn ardal arall) dorri ar barhad preswylfa arferol, a dylai awdurdodau lleol ystyried hyn

 

Nid yw’r ffaith bod y person yn absennol dros dro o’r awdurdod lleol lle mae fel arfer yn byw yn ei atal rhag derbyn unrhyw fath o ofal a chymorth gan awdurdod lleol arall os bydd ganddo angen brys. Mae gan awdurdodau lleol bwerau yn Neddf 2014 i ddiwallu anghenion pobl sydd fel arfer yn byw mewn ardal arall, yn ôl eu disgresiwn ac yn amodol ar hysbysu’r awdurdod lle mae’r person fel arfer yn byw

 

Pobl â mwy nag un cartref

 

Mewn termau cyffredinol, er efallai y bydd modd i berson fod â mwy nag un breswylfa arferol (er enghraifft, person sy’n rhannu ei amser yn gyfartal rhwng dau gartref), nid yw hyn yn bosibl at ddibenion Deddf 2014. Diben y prawf preswylfa arferol yn y Ddeddf yw pennu pa awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddiwallu anghenion cymwys person, a byddai’r diben hwn yn cael ei drechu petai person yn gallu bod â mwy nag un breswylfa arferol.

 

Os bydd hi’n ymddangos bod person yn rhannu ei amser yn gyfartal rhwng dau gartref, byddai angen sefydlu (o’r holl amgylchiadau) â pha un o’r ddau gartref y mae gan y person y cysylltiad cryfaf. Mewn achosion fel hyn, yr awdurdod lleol lle mae’r person fel arfer yn byw fyddai’n gyfrifol am ddarparu neu drefnu gofal a chymorth i ddiwallu’r anghenion tra bod y person yn absennol dros dro yn ei ail gartref.

 

Pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion

 

Pan fydd person ifanc ag anghenion gofal cymdeithasol yn troi’n 18 oed, fel arfer bydd y ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu llety a gwasanaethau o dan ddeddfwriaeth plant yn dod i ben. Os bydd plentyn neu berson ifanc wedi’i leoli mewn llety preswyl yn ardal awdurdod lleol gwahanol, pan fydd yn troi’n 18 oed mae’n debygol y bydd yr awdurdod lleoli yn dal i fod yn gyfrifol amdano.

 

Yn R(Cornwall) v Secretary of State for Health, penderfynodd y Goruchaf Lys fod preswylfa arferol person ifanc, a leolwyd mewn gofal maeth yn Ne Swydd Caerloyw a drefnwyd gan Gyngor Wiltshire o dan Ddeddf Plant 1989, yn dal i fod yn Wiltshire pan drodd yn 18 oed. Amlinellodd y Llys mai prif ddiben deddfwriaeth plant ac oedolion yw sicrhau na ddylai awdurdod allu allforio ei gyfrifoldeb dros ddarparu’r llety angenrheidiol trwy allforio’r person sydd angen y llety hwnnw, ac y byddai’n annymunol petai bwlch yn y ddeddfwriaeth yn golygu y byddai person ifanc a leolwyd mewn gwahanol ardal yn cael ei drin fel petai fel arfer yn byw yn yr ardal honno pan fyddai’n troi’n 18 oed.

 

Mewn rhai achosion, efallai y bydd gan y person ifanc ‘statws derbyn gofal’. Mae hyn yn golygu bod y plentyn neu’r person ifanc o dan ofal awdurdod lleol trwy orchymyn gofal neu fod awdurdod lleol yn darparu llety iddo o dan Ran 6 o’r Ddeddf. Bydd ‘statws derbyn gofal’ person ifanc yn dod i ben pan fydd yn troi’n 18 oed, ond bydd yr awdurdod lleol a oedd yn gyfrifol amdano yn cadw dyletswyddau parhaus, er enghraifft, i ddarparu cyngor a chymorth. Bydd y dyletswyddau hyn yn parhau ar ôl i’r person droi’n 18 oed, a’r awdurdod lleoli fyddai’n gyfrifol amdanynt fel arfer. Fodd bynnag, gall y llety preswyl gael ei ddarparu o dan ddeddfwriaeth oedolion.

 

 

Datrys anghydfodau

 

Datrys anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorth

 

Os bydd anghydfod yn codi, rhaid i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i ddatrys yr anghydfod rhwng y gwahanol bartïon. Gall hyn gynnwys un awdurdod lleol yn cytuno i ysgwyddo cyfrifoldeb, neu drefniadau pwrpasol i rannu unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â diwallu anghenion y person. Os na ellir datrys anghydfodau trwy drafod, efallai y bydd hi’n ofynnol i Weinidogion Cymru (neu berson a benodwyd ganddynt) wneud dyfarniad ar yr anghydfodau hynny.

 

Ni ddylai anghydfodau barhau am gyfnod amhendant. Rhaid i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i ddatrys yr anghydfod eu hunain cyn ei atgyfeirio i gael dyfarniad. Os na fydd modd datrys anghydfod, hyd yn oed ar ôl cael cyngor cyfreithiol priodol ac ystyried y sefyllfa yn ofalus, rhaid iddynt wneud cais am ddyfarniad. Dim ond ar ôl i bopeth arall fethu y dylid ystyried dyfarniad.

 

Mae’n hollbwysig nad yw’r person yn gorfod ymdopi heb y gofal sydd ei angen arno tra bod anghydfod yn cael ei ddatrys. Rhaid i un o’r awdurdodau lleol sy’n rhan o’r anghydfod dderbyn cyfrifoldeb dros dro dros y person y mae’r anghydfod yn gysylltiedig ag ef a darparu gwasanaethau iddo. Os na all awdurdodau lleol gytuno pa awdurdod ddylai dderbyn cyfrifoldeb dros dro dros ddarparu gwasanaethau, mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) (Cymru) 2015 yn nodi bod rhaid i’r awdurdod lleol lle mae’r person yn byw neu’n bresennol dderbyn cyfrifoldeb hyd nes i’r anghydfod gael ei ddatrys. Os yw’r person yn ddigartref, rhaid i’r awdurdod y mae’r person hwnnw yn bresennol yn ei ardal ysgwyddo’r cyfrifoldeb. Cyfeirir at yr awdurdod lleol sydd wedi derbyn cyfrifoldeb dros dro fel ‘yr awdurdod lleol arweiniol’.

 

Ni fydd Gweinidogion Cymru na’r person penodedig yn gwneud dyfarniad oni bai bod yna dystiolaeth bod un awdurdod lleol wedi derbyn cyfrifoldeb dros dro dros ddarparu gwasanaethau. Nid yw’r ffaith bod un awdurdod lleol wedi derbyn cyfrifoldeb dros dro yn dylanwadu ar y dyfarniad a wneir gan Weinidogion Cymru. 

 

Os bydd y dyfarniad yn penderfynu mai awdurdod lleol arall yw awdurdod y breswylfa arferol, gall yr awdurdod lleol arweiniol adennill costau gan yr awdurdod a ddylai fod yn darparu’r gofal a’r cymorth perthnasol.

 

Ni all Gweinidogion Cymru na’r person penodedig wneud penderfyniadau mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir yn y dyfodol. Os bydd anghydfodau’n codi fel yr amlinellir yn y rheoliadau, dylai awdurdodau lleol nodi y dylai anghenion asesedig y person gael eu diwallu yn ystod cyfnod yr anghydfod. Ni ddylai awdurdodau lleol ddarparu llai o becynnau gofal a chymorth tra bod yr anghydfod yn cael ei ddatrys.

 

Gall ceisiadau am ddyfarniad mewn perthynas â phreswylfa arferol ond cael eu gwneud os bydd dau awdurdod lleol neu fwy mewn anghydfod ynglŷn â lleoliad preswylfa arferol person. Os bydd awdurdodau lleol yn gytûn ynglŷn â phreswylfa arferol person, ond bod y person yn anfodlon â’r penderfyniad, byddai’n rhaid i’r person godi’r mater gyda’r awdurdodau dan sylw, ac ni allent wneud cais i Weinidogion Cymru neu berson penodedig am ddyfarniad.

 

Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) (Cymru) 2015 yn berthnasol hefyd i ddatrys anghydfodau rhwng awdurdodau yng Nghymru ynghylch preswylfa arferol person at ddibenion adran 117(4) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

 

Y broses o gael dyfarniad: preswylfa arferol

         

Pan fydd awdurdod lleol arweiniol yn gofyn i awdurdod arall am breswylfa arferol person, ond nad yw’n mynd ymlaen i gael sgwrs adeiladol i ddatrys yr anghydfod gyda’r awdurdod lleol arall, gall yr awdurdod lleol arall wneud cais i Weinidogion Cymru neu berson penodedig am ddyfarniad. Dylai’r awdurdod lleol arall ddilyn y camau a amlinellir yn y rheoliadau, gan gynnwys darparu tystiolaeth o’r ymdrechion y mae wedi’u gwneud i ymgysylltu â’r awdurdod arall.

 

Ni fydd Gweinidogion Cymru na’r person penodedig yn caniatáu i anghydfodau ynghylch preswylfa arferol barhau am gyfnod amhendant ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio i gael dyfarniad. Byddai unrhyw awdurdod lleol sy’n methu â rhoi sylw priodol i ddyfarniad yn wynebu risg o gael her gyfreithiol gan y preswylydd neu ei gynrychiolydd neu’r awdurdodau lleol eraill.

 

Efallai yr hoffai awdurdodau lleol gael cyngor cyfreithiol cyn gwneud cais am ddyfarniad, er nad yw’n ofynnol iddynt wneud hynny. Os ceir cyngor cyfreithiol, gall awdurdodau lleol wneud cais cyfreithiol ar wahân, yn ogystal â chyflwyno’r ddogfennaeth ofynnol. Os bydd cyflwyniadau cyfreithiol yn cael eu cynnwys, dylai fod yna dystiolaeth bod y cyflwyniadau wedi’u rhannu rhwng yr awdurdodau lleol mewn anghydfod.

 

Dylai ceisiadau am ddyfarniad gan Weinidogion Cymru gael eu hanfon i Lywodraeth Cymru yn y cyfeiriad isod:

 

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Swyddfeydd Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

Caerdydd CF10 3NQ

 

Os gofynnir i awdurdod lleol sydd mewn anghydfod ddarparu mwy o wybodaeth i Weinidogion Cymru neu berson penodedig yn ystod dyfarniad mewn perthynas ag anghydfod ynghylch preswylfa arferol gan Weinidogion Cymru neu berson penodedig, rhaid i’r awdurdod lleol hwnnw ddarparu’r wybodaeth honno yn ddi-oed.

 

Os bydd yr awdurdodau lleol sy’n rhan o’r anghydfod yn dod i gytundeb tra bod Gweinidogion Cymru yn ystyried y dyfarniad, dylent hysbysu Llywodraeth Cymru yn y cyfeiriad uchod. Rhaid i’r ddau barti gadarnhau bod yr anghydfod wedi’i ddatrys; yna, daw’r dyfarniad i ben.

 

Ailystyried anghydfodau

 

Os bydd ffeithiau pellach yn dod i’r amlwg ar ôl dyfarniad, efallai y bydd hi’n briodol i Weinidogion Cymru neu berson penodedig ailystyried y dyfarniad gwreiddiol. O ganlyniad i hyn, efallai y gwneir gwahanol ddyfarniad. Er enghraifft, oherwydd y dyfarniad cyntaf, mae awdurdod lleol A wedi talu swm i awdurdod lleol B ond, oherwydd effaith yr ail ddyfarniad, nid oedd rhaid i awdurdod lleol A dalu’r swm hwnnw, neu ran ohono, i awdurdod lleol B. Yn y sefyllfa hon, rhaid i awdurdod lleol B ad-dalu’r swm hwnnw i awdurdod lleol A.

 

Rhaid i unrhyw adolygiad o’r dyfarniad ddechrau o fewn tri mis i ddyddiad y dyfarniad gwreiddiol. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau eglurder a thegwch yn y broses ac i leihau’r amser a gymerir i wneud dyfarniadau.

Addasiadau ariannol rhwng awdurdodau lleol

Weithiau, bydd awdurdod lleol wedi bod yn talu am ofal a chymorth person, ond bydd hi’n dod yn amlwg bod y person fel arfer yn byw yn rhywle arall. O dan yr amgylchiadau hyn, gall yr awdurdod lleol sydd wedi bod yn talu am ofal y person hwnnw adennill y costau gan yr awdurdod lleol lle’r oedd y person fel arfer yn byw.

 

Gall hyn ddigwydd mewn achosion lle nad yw’n glir lle mae’r person fel arfer yn byw. Er mwyn sicrhau nad yw’r unigolyn yn dioddef unrhyw oedi yn ei ofal oherwydd ansicrwydd ynglŷn â’i breswylfa arferol, dylai awdurdodau lleol allu adennill unrhyw golledion oherwydd camgymeriadau a wnaed wrth benderfynu lle’r oedd person fel arfer yn byw. Mae hyn yn ymestyn hefyd i’r costau sy’n gysylltiedig â chefnogi gofalwr y person yr oedd anghydfod ynghylch ei breswylfa arferol.

 

Fodd bynnag, nid yw’n berthnasol os yw’r awdurdod lleol wedi dewis diwallu anghenion y person er ei fod yn gwybod ei fod fel arfer yn byw mewn ardal arall. Os bydd dyfarniad wedi’i ddiwygio fel y cyfeiriwyd ato yn y paragraffau uchod sy’n rhoi sylw i ailystyried anghydfod, ac oherwydd y dyfarniad cyntaf, mae awdurdod lleol A wedi talu swm i awdurdod lleol B ond, oherwydd effaith yr ail ddyfarniad, nid oedd rhaid i awdurdod lleol A dalu’r swm hwnnw, neu ran ohono, i awdurdod lleol B. Yn y sefyllfa hon, rhaid i awdurdod lleol B ad-dalu’r swm hwnnw i awdurdod lleol A.

 

Mae Deddf 2014 yn darparu ar gyfer adennill treuliau rhesymol a ddaeth i ran awdurdod lleol o ran lletya a chynnal plentyn heb rieni neu sydd ar goll neu wedi ei adael ac ati (o dan adran 76(1)) ac sydd fel arfer yn byw mewn awdurdod arall. Gall awdurdod hefyd adennill treuliau rhesymol os yw’n lletya plentyn sydd fel arfer yn byw mewn awdurdod arall, sy’n cael ei dynnu neu ei gadw i ffwrdd o’r cartref o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989, sy’n cael ei amddiffyn gan yr heddlu neu y mae wedi derbyn cais i’w dderbyn o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (cyn belled nad yw’r plentyn yn cael ei gynnal mewn cartref cymunedol, cartref cymunedol a reolir neu ysbyty). 

 

Anghydfodau trawsffiniol

 

Mae’r weithdrefn ar gyfer trafod anghydfodau ynghylch preswylfa arferol person rhwng awdurdod lleol yng Nghymru ac awdurdod lleol yn Lloegr neu’r Alban (neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) wedi’i hamlinellu yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Lleoliadau Trawsffiniol a Methiant Busnes: Dyletswydd Dros Dro) (Datrys Anghydfodau) 2014. Mae’r rhain hefyd yn cwmpasu preswylfa arferol person mewn cysylltiad ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (gwasanaethau ôl-ofal). Mae canllawiau ar leoliadau trawsffiniol ynghlwm yn Atodiad 4 i’r cod hwn ac yn y Canllawiau Ymarfer a gyhoeddwyd gan SCIE. 

 


Atodiad 1

 

Canllawiau, Codau Ymarfer a Gwybodaeth ychwanegol berthnasol arall

 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu darpariaethau i ddiwygio cyfraith gofal cymdeithasol, i wneud darpariaethau ynglŷn â gwella’r canlyniadau llesiant ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth.

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=5664 

 

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn darparu manylion y dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol mewn perthynas â darparu gwasanaethau digartrefedd sy’n canolbwyntio ar atal, gofynion cofrestru a thrwyddedu newydd ar gyfer landlordiaid sector preifat, pwerau i awdurdodau lleol gynyddu ffioedd y dreth gyngor ar ail gartrefi a gofynion i ddiwallu anghenion llety sipsiwn a theithwyr. Bydd y Ddeddf yn dod i rym ym mis Ebrill 2015.

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8220 

 

Mae Deddf Gofal 2014 – Adran 76 Carcharorion a phobl mewn mangreoedd a gymeradwywyd, etc yn amlinellu darpariaethau yn y Ddeddf Gofal sy’n darparu gofal a chymorth i garcharorion mewn sefydliadau diogel yn Lloegr (mae hyn yn cynnwys oedolion mewn mangreoedd a gymeradwywyd a llety mechnïaeth arall, yn ogystal â phobl dros 18 oed mewn sefydliadau troseddwyr ifanc, cartrefi plant diogel a chanolfannau hyfforddi diogel).

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2014/23/contents/enacted

 

Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn amlinellu trefniadau i helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl trwy:

·         wella mynediad at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol

·         gwella cynlluniau gofal a thriniaeth ar gyfer pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

http://llyw.cymru/topics/health/nhswales/healthservice/mental-health-services/measure/?skip=1&lang=cy    

 

Mae Canllawiau Gweithredu Polisi ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Carcharorion 2014 yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i garcharorion ac yn nodi rhai materion y bydd angen eu trafod.

http://llyw.cymru/topics/health/nhswales/healthservice/mental-health-services/?skip=1&lang=cy  

 


 

Mae Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 yn amlinellu darpariaeth yn ymwneud â chymorth cyfreithiol, mechnïaeth a remand arall; darpariaeth ynglŷn â chyflogi, talu a throsglwyddo pobl sy’n cael eu cadw mewn carchardai a sefydliadau eraill; darpariaeth ynglŷn â hysbysiadau cosb am ymddygiad afreolus a rhybuddion; ac ymysg dyletswyddau eraill, diwygio adran 76 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (hunanamddiffyniad). Mae adran 104 yn nodi y dylai plentyn sydd ar remand mewn llety cadw ieuenctid gael ei drin fel plentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod dynodedig.

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2012/10/contents/enacted

 

Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 yn amlinellu darpariaeth bellach yn ymwneud â chyfiawnder troseddol (gan gynnwys darpariaeth ynglŷn â’r heddlu) a delio gyda throseddwyr a methdalwyr; darpariaeth bellach ynglŷn â rheoli troseddwyr; diwygio cyfraith droseddol; ac ymysg dyletswyddau eraill, gwneud darpariaeth bellach ar gyfer mynd i’r afael â throsedd ac anhrefn.

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2008/4/contents

 

Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 2014 yn ymestyn goruchwyliaeth statudol yng Nghymru a Lloegr i oddeutu 50,000 o droseddwyr â dedfrydau o lai na 12 mis. Bydd y troseddwyr hyn yn treulio eu dedfryd i gyd mewn carchar adsefydlu. 

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2014/11/contents/enacted

 

Mynediad at Gyfiawnder – Llyfr canllaw amlasiantaethol sy’n cefnogi rheolaeth ymatebol a phriodol oedolion ag anabledd dysgu yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2013. Y bwriad yw y bydd yn helpu comisiynwyr, cynllunwyr ac ymarferwyr ar draws gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol yng Nghymru i wella darpariaeth gwasanaethau. http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/67512

 

Mae Strategaeth Lleihau Aildroseddu Cymru: 2014-2016 yn darparu cyfrwng ar gyfer gwella cydweithredu, gan sicrhau y gall adnoddau gael eu targedu i’r eithaf. Un o amcanion allweddol y Strategaeth yw rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod troseddwyr yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n briodol i’w hanghenion.

 

Mae Deddf Plismona a Throsedd 2009 yn ymestyn y mandad i lunio a gweithredu strategaeth i leihau aildroseddu i awdurdodau lleol fel ‘awdurdod cyfrifol o fewn Partneriaethau Diogelwch Cymunedol’ (CSPs). Mae’r ddyletswydd hon yn ei gwneud hi’n ofynnol i ardaloedd lleol ddeall proffiliau troseddwyr, y ffyrdd y gall gwasanaethau fynd i’r afael ag anghenion troseddwyr ac, yn hanfodol, lle y dylid targedu adnoddau er mwyn lleihau aildroseddu.

 

Gorchymyn Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr 2000

Ym mis Ebrill 2000, ysgwyddodd Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr gyfrifoldeb dros gomisiynu llefydd mewn sefydliadau diogel i blant a phobl ifanc yng Nghymru a Lloegr, a’u lleoli ar ôl iddynt gael eu rhoi ar remand neu eu dedfrydu gan y llysoedd.

 

Plant a Phobl Ifanc yn Gyntaf – Strategaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol i wella gwasanaethau ar gyfer troseddwyr ifanc neu’r rhai sy’n wynebu risg o droseddu.

https://www.gov.uk/government/publications/youth-justice-strategy-for-wales-children-and-young-people-first

 

Deddf Trosedd ac Anhrefn – Gofynion y Ddeddf yw y bydd timau troseddau ieuenctid yn cynnwys o leiaf un o bob un o’r canlynol:

(a) swyddog bwrdd prawf lleol neu swyddog darparwr gwasanaethau prawf; (b) gweithiwr cymdeithasol awdurdod lleol; (c) swyddog yr heddlu; (d) person a enwebir gan Fwrdd Iechyd Lleol y mae ei ardal yn rhan o ardal yr awdurdod lleol; (e) person a enwebir gan y prif swyddog addysg a benodir gan yr awdurdod lleol.

 

Canllawiau ac Egwyddorion ar gyfer Pontio o fod yn Berspon Ifanc i fod yn Oedolyn yng Nghymru – gwella’r ffordd mae timau troseddau ieuenctid a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd.

https://www.gov.uk/government/publications/youth-to-adult-transition-principles-and-guidance-for-wales

 

Canllawiau ar y cyd ar iechyd meddwl yn y system cyfiawnder ieuenctid – Canllawiau gweithredu polisi i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid.

https://www.gov.uk/government/publications/joint-guidance-on-mental-health-in-the-youth-justice-system

 

Safonau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid – Safonau ar gyfer gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, timau troseddau ieuenctid a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio yn y system gyfiawnder.

https://www.gov.uk/government/publications/national-standards-for-youth-justice-services

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 2

 

Lleoliadau trawsffiniol i oedolion

 

Mae’r atodiad hwn i’r cod ymarfer yn cynnwys y canlynol:

 

·         cyfrifoldebau awdurdodau lleol (yng Ngogledd Iwerddon, Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IGC)) mewn perthynas â lleoli unigolion mewn llety gofal preswyl mewn gwahanol diriogaethau yn y DU

·         y materion hynny y dylai awdurdodau lleol (neu Ymddiriedolaethau IGC) roi sylw iddynt wrth ystyried, cynllunio a gweithredu lleoliad trawsffiniol

·         y broses ar gyfer datrys anghydfodau a all godi o ganlyniad i leoliad trawsffiniol.

 

Diffiniadau

 

Awdurdod cyntaf – yr awdurdod lleol (neu’r Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IGC) yng Ngogledd Iwerddon) sy’n lleoli’r unigolyn mewn lleoliad trawsffiniol.

Ail awdurdod – yr awdurdod lleol (neu’r Ymddiriedolaeth IGC) y mae’r unigolyn wedi’i leoli neu am gael ei leol yn ei ardal.

 

 

Cyflwyniad

 

Mae Atodlen 1 Deddf Gofal 2014 yn datgan rhai egwyddorion penodol sy’n llywodraethu’r achlysuron hynny pan fydd awdurdod lleol yn penderfynu mai’r ffordd orau o ddiwallu angen unigolyn am ofal a chymorth yw drwy ei leoli mewn gofal preswyl mewn rhan arall o’r DU.

 

Mae Atodlen 1 yn sicrhau bod yr awdurdod lleol sy’n gwneud y lleoliad yn parhau i fod yn gyfrifol am gostau’r lleoliad. Gweithiodd y Gweinyddiaethau Datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda Llywodraeth y DU i gytuno ar yr egwyddorion yn Atodlen 1.  

 

Mae Atodlen 1 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd wneud rheoliadau i lywodraethu anghydfodau rhwng awdurdodau lleol mewn rhannau gwahanol o’r DU. Mae’r rhain yn cynnwys pa Weinidog (‘Unigolyn Cyfrifol’) sydd â’r awdurdod i benderfynu ar anghydfod rhwng dau awdurdod, a pha awdurdod yw’r awdurdod arweiniol mewn perthynas ag anghydfod o’r fath. Mae’r Rheoliadau Gofal a Chymorth (Lleoliadau Trawsffiniol a Methiant Darparwyr: Dyletswydd Dros Dro) (Datrys Anghydfod) 2014 yn berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dileu’r cyfyngiadau presennol ar bwerau awdurdodau lleol Cymru i leoli personau mewn gwledydd eraill yn y DU. (Hyd at gyflwyno Deddf 2014, roedd y pwerau hyn yn gyfyngedig i leoliadau yn Lloegr). Mae hyn yn golygu y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu lleoli personau mewn gofal preswyl yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon o fis Ebrill 2016 ymlaen.   

 

Bydd cyfarwyddyd i gefnogi gweithredu darpariaethau Atodlen 1 yn cael ei gyhoeddi ym mhob rhan o’r DU. Mae Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau eraill yn awyddus i sicrhau bod y cyfarwyddyd sy’n cael ei gyhoeddi ym mhob rhan o’r DU yn cynnwys yr un egwyddorion a’r dulliau gweithredu, fel bod awdurdodau lleol yn gallu cydweithio er budd gorau’r bobl sydd angen gofal a chymorth

 

Egwyddorion a phwrpas lleoliadau trawsffiniol

 

Pwrpas

 

Mae iechyd a lles pobl yn fwy tebygol o wella os ydynt yn agos at rwydwaith cefnogi o ffrindiau a theulu. Mewn nifer bychan o achosion, gall ffrindiau a theulu unigolyn fod wedi’u lleoli mewn gwlad wahanol yn y DU i’r un y mae’r unigolyn yn preswylio ynddi.

 

Wrth benderfynu sut orau i ddiwallu anghenion unigolyn sydd wedi’u hasesu, gall yr awdurdod[19] a’r unigolyn dan sylw ddod i’r casgliad mai’r ffordd orau o sicrhau lles yr unigolyn yw drwy leoliad mewn gofal preswyl mewn gwlad wahanol yn y DU. Mae Atodlen Un i’r Bil Gofal yn datgan rhai egwyddorion penodol sy’n llywodraethu lleoliadau gofal preswyl trawsffiniol.

 

Fel rheol gyffredinol, mae’r cyfrifoldeb am unigolion sydd wedi’u lleoli mewn gofal preswyl trawsffiniol yn aros gyda’r awdurdod cyntaf. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn datgan sut dylai’r awdurdodau cyntaf a’r ail awdurdodau gydweithio er budd yr unigolion sy’n cael gofal a chymorth drwy leoliad preswyl trawsffiniol.      

 

Egwyddorion

 

Mae pedair gweinyddiaeth y DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) wedi cydweithio er mwyn cytuno ar Atodlen Un ac ar y canllawiau cysylltiedig hyn. Mae dwy brif egwyddor yn sylfaen i’r cydweithredu agos hwn, a dylai’r rhai sy’n ymwneud â lleoliadau gofal preswyl trawsffiniol gadw at yr egwyddorion. 

 

Proses sy’n rhoi sylw canolog i’r unigolyn

 

Sail resymegol Atodlen Un yw gwella lles unigolion sy’n gallu elwa ar leoliad gofal preswyl trawsffiniol. Os bydd awdurdod lleol, wrth benderfynu ar y dull gorau o ddiwallu anghenion gofal unigolyn sydd wedi’u hasesu, yn credu y gallai lleoliad trawsffiniol fod yn briodol, dylai drafod hyn gyda’r unigolyn a/neu ei gynrychiolydd. Wrth wneud y trefniadau o ganlyniad, dylai awdurdodau ystyried safbwyntiau, dymuniadau, teimladau a chredoau’r unigolyn. Wrth gynnal asesiad o oedolyn 65 oed neu hŷn, bydd rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ystyried a fyddai’r unigolyn y mae ei anghenion yn cael eu hasesu’n elwa o bresenoldeb gofalwr, ffrind neu eiriolwr.

 

Dwyochredd a chydweithrediad

 

Mae gweithredu trefniadau trawsffiniol cwbl hwylus o fudd i’r holl bartïon - ac yn bwysicach oll, o fudd i’r rhai sydd angen gofal preswyl - yn holl awdurdodau a thiriogaethau’r DU. Nid oes disgwyl i awdurdodau ddioddef anfanteision ariannol ychwanegol drwy wneud lleoliadau trawsffiniol. Mae disgwyl i bob awdurdod gydweithredu’n llawn a chyfathrebu’n briodol. O dan amgylchiadau lle y gall fod angen gofal a chymorth ar unigolion gan yr ail awdurdod (e.e. o dan amgylchiadau brys neu amgylchiadau na ellid eu rhagweld, fel methiant darparwr) mae’n rhaid darparu gofal o’r fath heb oedi (gellir gwneud trefniadau i adfer y costau maes o law).

 

Lleoliadau gofal preswyl trawsffiniol

 

Dylai awdurdodau ddilyn y broses gyffredinol ganlynol ar gyfer gwneud lleoliadau gofal preswyl trawsffiniol. Mae’n bosibl y bydd awdurdodau yn dymuno addasu’r broses hon i fod yn addas i’w hanghenion ond, yn gyffredinol, dylai awdurdodau geisio dilyn y prosesau sydd wedi’u datgan isod i’r graddau sy’n bosibl.

 

Mae’n bosibl y bydd awdurdodau yn dymuno dynodi swyddog arweiniol ar gyfer gwybodaeth a chyngor yn ymwneud â lleoliadau trawsffiniol, a fydd hefyd yn gweithredu fel unigolyn cyswllt.

 

Dylid dilyn y camau hyn pan fydd lleoliad preswyl trawsffiniol yn cael ei drefnu gan awdurdod, p’un ai yw’n cael ei gyllido gan yr awdurdod hwnnw neu gan yr unigolyn ei hun.

 

Cam un: Trefnu i ddiwallu anghenion gofal unigolyn sydd wedi’u hasesu

 

Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ar yr angen am leoliad gofal preswyl trawsffiniol mewn partneriaeth â’r unigolyn dan sylw, fel rhan o’r broses o benderfynu sut orau i ddiwallu anghenion yr unigolyn sydd wedi’u hasesu

 

Wrth asesu anghenion gofal cymdeithasol unigolyn a phenderfynu ar sut orau i ddiwallu’r anghenion hynny, dylai awdurdodau sefydlu pa rwydweithiau cefnogi (e.e. ffrindiau a theulu) sydd gan yr unigolyn dan sylw yn ei fan preswylio cyfredol[20]. Wrth drafod gyda’r unigolyn a phartïon perthnasol eraill, dylid gwneud ymholiadau ynghylch a oes rhwydwaith cefnogi’n bodoli yn rhywle arall. Fel dewis arall, gall yr unigolyn (neu ei deulu neu ei ffrindiau) fynd ati i fynegi dyhead i symud i ardal sydd â rhwydwaith cefnogi gwell neu symud i ardal arall am resymau eraill.

 

Dylai awdurdodau roi ystyriaeth briodol i sut i adlewyrchu’r trafodaethau trawsffiniol gyda’r unigolyn yn y broses cynllunio gofal.

 

Pan ddaw i’r amlwg y gallai gofal preswyl mewn tiriogaeth wahanol yn y DU fod yn briodol i ddiwallu anghenion yr unigolyn, dylai’r awdurdod roi gwybod i’r unigolyn dan sylw (a/neu ei gynrychiolydd) am argaeledd posib lleoliad trawsffiniol os nad yw’r unigolyn (a/neu ei gynrychiolydd) wedi codi’r mater hwn ei hun eisoes.

 

Os bydd yr unigolyn yn dymuno ystyried y posibilrwydd o leoliad trawsffiniol, bydd rhaid i’r awdurdod ystyried y manteision a’r anfanteision yn ofalus. Dyma rai cwestiynau y bydd yr awdurdod yn dymuno rhoi sylw iddynt o bosib:

 

·         A fyddai’r rhwydwaith cefnogi yn ardal y lleoliad newydd arfaethedig yn gwella (neu o leiaf yn cynnal) lles yr unigolyn?

 

·         Pa effaith fyddai newid lleoliad yn ei chael ar lesiant yr unigolyn? Pa mor dda y mae’n debygol o addasu i’w amgylchedd newydd?

 

·         A yw’r unigolyn yn derbyn unrhyw ofal iechyd arbenigol? A fydd ardal y lleoliad newydd arfaethedig yn caniatáu i’w driniaeth barhau’n foddhaol?

 

·         Os nad oes gan yr unigolyn allu meddyliol i benderfynu lle mae eisiau byw, pwy yw cynrychiolydd yr unigolyn, a sut y dylid cynnwys y cynrychiolydd?   

Gyda chaniatâd yr unigolyn dan sylw (neu ei gynrychiolydd), dylai’r awdurdod holi barn ffrindiau a/neu deulu’r unigolyn dan sylw sy’n byw yn ardal y lleoliad newydd arfaethedig (ac unrhyw ffrindiau a/neu deulu yn yr ardal lle mae’n preswylio ar hyn o bryd) am fanteision disgwyliedig y lleoliad ac unrhyw bryderon sydd ganddynt.

 

Os yw’n ymddangos o hyd bod lleoliad trawsffiniol er lles yr unigolyn, dylai’r awdurdod gymryd camau i ymchwilio i ba ddarparwyr sydd ar gael yn ardal y lleoliad newydd arfaethedig a pha rai sy’n debygol o allu diwallu anghenion yr unigolyn. Dylai’r awdurdod gynnal yr holl archwiliadau angenrheidiol ac ymarfer diwydrwydd dyladwy fel y byddai gydag unrhyw leoliad gofal preswyl arall.

Wrth baratoi cynllun gofal a chymorth, mae’n rhaid i awdurdodau lleol Cymru gynnwys yr unigolyn ac unrhyw ofalwr yr unigolyn.

 

Dylai’r unigolyn dderbyn gwybodaeth reolaidd a chael ei gynnwys gydol y broses. Dylid gofyn am ei farn ar ddarparwyr addas a sicrhau ei gytundeb cyn gwneud y penderfyniad terfynol. Dylid ystyried manteision eiriolaeth wrth gynorthwyo’r unigolyn i fynegi ei safbwyntiau. 

 

Hefyd, dylid rhoi gwybod i’r unigolyn pa mor debygol ydyw y bydd yr awdurdod cyntaf yn rhoi gwybod am y lleoliad i’r ail awdurdod, gan geisio cymorth yr awdurdod hwnnw i reoli’r lleoliad neu gyflawni swyddogaethau eraill, er enghraifft, adolygiadau, a beth fyddai hyn yn ei gynnwys. Er enghraifft, pe bai hyn yn cynnwys yr ail awdurdod yn rhannu gwybodaeth neu’n casglu gwybodaeth ar ran yr awdurdod cyntaf (gweler yr adran nesaf), dylid rhoi gwybod i’r unigolyn am hyn o’r dechrau a gofyn am ei ganiatâd.

 

 

Dylai awdurdodau geisio cynnig dewis o leoliadau i bobl.

 

Cam Dau: Cyswllt cyntaf rhwng yr awdurdod ‘cyntaf’ a’r ‘ail’ awdurdod

 

Ar ôl cytuno ar y lleoliad mewn egwyddor (gyda’r unigolyn dan sylw a/neu ei gynrychiolydd) ac wedi i’r awdurdod nodi darparwr posib, dylai gysylltu ar unwaith â’r awdurdod sy’n gyfrifol am ardal y lleoliad.

 

Dylai’r awdurdod cyntaf wneud y canlynol:

 

·         rhoi gwybod i’r ail awdurdod am ei fwriad i wneud lleoliad gofal preswyl trawsffiniol

·         rhoi dyddiad dros dro ar gyfer ei fwriad i’r unigolyn dan sylw ddechrau yn ei leoliad

·         rhoi manylion y darparwr gofal preswyl arfaethedig i’r ail awdurdod

·         ceisio barn yr awdurdod hwnnw ar addasrwydd y llety preswyl.

 

Gellir gwneud y cyswllt cyntaf dros y ffôn, ond dylid ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

 

Nid oes gan yr ail awdurdod unrhyw bŵer i ‘flocio’ lleoliad gofal preswyl yn ei ardal gan fod yr awdurdod cyntaf yn contractio’n uniongyrchol gyda’r darparwr. Os bydd yr ail awdurdod yn gwrthwynebu’r lleoliad arfaethedig, dylai’r awdurdod cyntaf gymryd pob cam rhesymol i ddatrys y problemau dan sylw cyn gwneud y lleoliad.

 

Yn dilyn y cyswllt cyntaf ac unrhyw drafodaethau dilynol (ac ar yr amod nad oes unrhyw rwystrau wedi’u nodi i atal y lleoliad), dylai’r awdurdod cyntaf ysgrifennu at yr ail awdurdod yn cadarnhau casgliadau’r trafodaethau ac yn datgan amserlen o gerrig milltir allweddol hyd at ddechrau’r lleoliad.

Dylai’r awdurdod cyntaf roi gwybod i’r darparwr bod y lleoliad yn cael ei gynnig - yn yr un modd â gydag unrhyw leoliad gofal preswyl. Dylai’r awdurdod cyntaf sicrhau bod y darparwr yn ymwybodol y bydd hwn yn lleoliad trawsffiniol.

 

Dylai’r awdurdod cyntaf gysylltu â’r unigolyn dan sylw a/neu ei gynrychiolydd i gadarnhau bod modd bwrw ymlaen â’r lleoliad ac i sicrhau ei gytundeb terfynol. Dylai’r awdurdod cyntaf roi gwybod hefyd i unrhyw deulu/ffrindiau bod yr unigolyn wedi rhoi caniatâd a/neu wedi gwneud cais am gael gwybodaeth gyson.

 

Dylai’r awdurdod cyntaf wneud yr holl drefniadau y byddai’n eu gwneud fel rheol wrth drefnu lleoliad gofal preswyl yn ei ardal ei hun.

 

 

Cam tri: trefniadau i reoli lleoliad yn barhaus

 

Un elfen allweddol yw bod yr awdurdod cyntaf yn mynd ati gyda’r ail awdurdod i ystyried y trefniadau ar gyfer rheoli’r lleoliad yn barhaus a rhoi cymorth i gyflawni swyddogaethau gofal a chymorth perthnasol.

 

Bydd yr awdurdod cyntaf yn parhau i fod yn gyfrifol am yr unigolyn ac am reoli ac adolygu ei leoliad. Yn y cyswllt hwn, nid yw cyfrifoldebau’r awdurdod ar gyfer yr unigolyn yn wahanol i’r hyn y byddent pe bai’r unigolyn yn cael ei leoli gyda darparwr yn ardal yr awdurdod ei hun.

 

Fodd bynnag, cydnabyddir y gall rheoli lleoliad o ddydd i ddydd sy’n gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’r awdurdod fod yn anodd yn ymarferol.  

 

O’r herwydd, efallai y bydd yr awdurdod cyntaf eisiau gwneud trefniadau i’r ail awdurdod helpu gyda swyddogaethau rheoli’r lleoliad  o ddydd i ddydd. Er enghraifft, os oes angen cyswllt brys wyneb yn wyneb gyda’r darparwr a/neu’r unigolyn dan sylw, neu gymorth gyda’r adolygiadau gofal rheolaidd y mae’r awdurdod cyntaf yn gorfod eu cynnal ac nad ydynt wedi’u dirprwyo o bosibl, gall yr ail awdurdod eu cynorthwyo (e.e. drwy gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer yr adolygiad a’i rhoi i’r awdurdod cyntaf i wneud penderfyniad).

 

Dylid datgan yn glir mai cyfrifoldeb yr awdurdod cyntaf yn y pen draw yw arfer y swyddogaethau (mae’n cael cymorth i gyflawni’r swyddogaethau hyn, neu, lle bo hynny’n berthnasol, yn awdurdodi bod swyddogaethau’n cael eu harfer ar ei ran).

 

Dylid manylu ar unrhyw drefniant o’r fath yn ysgrifenedig – gan ddatgan yn glir rôl yr ail awdurdod ac am ba hyd y bydd yn cyflawni’r rôl. Hefyd, dylid egluro pa mor rheolaidd y mae’n rhaid adrodd i’r awdurdod cyntaf, a nodi unrhyw daliad perthnasol ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan yr ail awdurdod.

 

 

Cam Pedwar: Cadarnhau’r lleoliad

 

Ar ôl i’r lleoliad gael ei gadarnhau, dylai’r awdurdod cyntaf hysbysu’r ail awdurdod a nodi ar ffurf ysgrifenedig yr holl drefniadau sydd wedi’u gwneud gyda’r ail awdurdod ynglŷn â chymorth i reoli’r lleoliad yn barhaus, a materion eraill. Hefyd, dylai’r awdurdod cyntaf gadarnhau ar ba ddyddiad y bydd y lleoliad yn dechrau.

 

Dylai’r ail awdurdod gadarnhau ei fod wedi derbyn y dogfennau hyn/wybodaeth hon a chadarnhau ei fod yn cytuno â’r trefniadau yn ysgrifenedig.

 

Dylai’r awdurdod cyntaf roi manylion cyswllt yr awdurdod cyntaf a’r ail awdurdod i’r unigolyn dan sylw a/neu ei gynrychiolydd (gan gynnwys manylion y person y dylid cysylltu ag ef mewn argyfwng). Os bydd angen, mae disgwyl y bydd yr awdurdod cyntaf yn gyfrifol am drefnu cludiant addas, a chostau’r cludiant, i fynd â’r unigolyn a’i eiddo i’w leoliad newydd.

 

Fel sy’n digwydd yn arferol, bydd yr awdurdod cyntaf yn gyfrifol fel rheol am gau’r lleoliadau blaenorol neu wneud trefniadau eraill angenrheidiol yng nghyswllt man preswylio blaenorol yr unigolyn.

 

Materion eraill i’w hystyried wrth drefnu lleoliad

 

Amseroldeb trefnu a gwneud lleoliad

 

Dylid cynnal camau un i bedwar mewn modd amserol; dylai’r amser a gymerir fod yn gymesur â’r amgylchiadau.

 

Lleoliadau a drefnir gan yr unigolion eu hunain

 

Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i unigolion sy’n trefnu eu gofal eu hunain. Fel rheol, bydd unigolion sy’n trefnu ac yn talu am eu gofal eu hunain yn preswylio yn a/neu yn gyfrifoldeb yr ardal y maent yn symud iddi. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i unigolion sy’n talu am eu gofal preswyl eu hunain os yw awdurdod lleol yn trefnu’r gofal hwnnw.

 

Problemau a allai godi ar ôl i leoliad ddechrau

 

Os bydd yr unigolyn angen aros yn llety’r GIG

 

Os bydd rhaid i’r unigolyn sydd wedi’i roi mewn lleoliad trawsffiniol fynd i’r ysbyty am unrhyw gyfnod o amser, ni fydd yr arhosiad hwn yn tarfu ar y sefyllfa o ran preswyliaeth neu gyfrifoldeb arferol o dan Atodlen Un.

 

Bydd yr awdurdod cyntaf yn gyfrifol am unrhyw ffi “gadw” sydd i’w thalu i’r darparwr gofal i ddiogelu lle unigolyn tra bod yr unigolyn yn yr ysbyty.

 

 

Os bydd yr unigolyn angen gofal nyrsio a gyllidir gan y GIG

 

Os bydd yr unigolyn sy’n cael ei leoli angen gofal nyrsio a gyllidir gan y GIG, dylai’r awdurdod cyntaf, corff y GIG sy’n darparu’r gofal, corff y GIG sy’n cyllido’r gofal a darparwr y gofal preswyl drafod y trefniadau ar gyfer cyflawni hyn cyn dechrau’r lleoliad. Mae’n bwysig ymgysylltu â’r GIG yn gynnar (ymlaen llaw mewn gwirionedd) o dan amgylchiadau o’r fath er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer lleoliadau trawsffiniol yn cael eu darparu mewn ffordd integredig a llwyddiannus.

 

Os daw angen am ofal nyrsio i’r amlwg ar ôl i’r lleoliad ddechrau, dylai’r awdurdodau perthnasol gydweithio i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu heb oedi.

 

Mae’r pedair gweinyddiaeth yn y DU wedi llunio cytundebau dwyochrog ar wahân ynglŷn â pha weinyddiaeth a ddylai dalu cost y gofal nyrsio a gyllidir gan y GIG sydd ei angen ar unigolion a leolir yn drawsffiniol mewn gofal preswyl.

 

Os bydd lleoliad trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr (i’r naill gyfeiriad neu’r llall), bydd gwasanaeth iechyd yr ail awdurdod yn gyfrifol am gostau gofal nyrsio’r GIG. Fodd bynnag, os bydd lleoliad trawsffiniol rhwng Cymru a’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, neu rhwng yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd gwasanaeth iechyd yr awdurdod cyntaf yn cadw’r cyfrifoldeb am gostau gofal nyrsio’r GIG.

 

Os bydd anghenion gofal yr unigolyn yn newid yn ystod y lleoliad

 

Os bydd anghenion gofal unigolyn yn newid yn ystod y lleoliad, dylid tynnu sylw at y rhain mewn adolygiad, a diwygio’r cynllun rheoli gofal yn ôl yr angen.

 

Mae’r awdurdod cyntaf yn cadw’r cyfrifoldeb am adolygu a diwygio pecyn gofal yr unigolyn, ond efallai y bydd wedi cytuno gyda’r ail awdurdod i’r awdurdod hwnnw ei helpu mewn ffyrdd penodol. Yn yr achos hwn, bydd eglurder a chyfathrebu’n bwysig i rôl pob awdurdod.

 

Os yw’r gŵyn yn ymwneud â’r darparwr gofal, dylid ei chyflwyno i’r darparwr yn y lle cyntaf, a dylid mynd i’r afael â hi yn unol â phroses gwynion y darparwr o dan y ddeddfwriaeth berthnasol. Deddfwriaeth y weinyddiaeth y mae’r unigolyn wedi cael ei leoli ynddi fydd hon fel arfer.

 

Os yw’r gŵyn yn ymwneud â gofal y GIG, dylid mynd i’r afael â hi yn unol â’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â chwynion o’r fath yn nhiriogaeth berthnasol y DU.  

 

Dylai’r awdurdod cyntaf fynd i’r afael â chwynion yn ymwneud â’r awdurdod cyntaf yn unol â deddfwriaeth berthnasol y rhan honno o’r DU, a dylid ymdrin â chwynion yn ymwneud â phecyn gofal unigolion yn yr un modd. Dylai’r ail awdurdod fynd i’r afael â chwynion yn ymwneud â’r ail awdurdod.

 

Os oes angen atgyfeirio achos i’r ombwdsmon iechyd, dylid ei atgyfeirio i’r ombwdsmon sy’n gyfrifol am y darparwr neu’r awdurdod sy’n destun y gŵyn. Gweler yr adran ganlynol ar gyfer gwybodaeth am sut i fynd i’r afael ag anghydfod posibl rhwng dau awdurdod lleol neu fwy.

 

Trefniadau adrodd

 

Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i awdurdodau lleol roi gwybod i awdurdodau cenedlaethol bod lleoliad trawsffiniol wedi digwydd. Fodd bynnag, gan y bydd lleoliadau trawsffiniol ledled y DU yn ddigwyddiadau newydd yn gyffredinol, bydd yn ddoeth cofnodi nifer y lleoliadau sy’n digwydd, fel sylfaen gadarn i ddefnyddio’r polisi yn y dyfodol. Felly, dylai awdurdodau gofnodi nifer y lleoliadau a wneir i’w hardal o diriogaethau eraill y DU ac i’r gwrthwyneb.

 

Anghydfodau rhwng awdurdodau

 

Os yw awdurdodau’n rhoi ystyriaeth briodol i’r prosesau a’r gweithdrefnau a awgrymir a amlinellir uchod, ac yn eu gweithredu, ac, yn bwysicach, os yw’r awdurdod cyntaf a’r ail awdurdod yn cydweithio mewn ysbryd o ddwyochredd a chydweithrediad ac yn cyfathrebu’n brydlon er mwyn sicrhau bod materion yn cael eu rhoi ar waith yn hwylus, ni ddylai fod angen datrys anghydfodau. Mae anghydfod yn fwyaf tebygol o ddigwydd oherwydd diffyg cyfathrebu neu yn dilyn problemau cyfathrebu/camddealltwriaeth rhwng yr awdurdod cyntaf a’r ail awdurdod yn ystod y broses o drefnu’r lleoliad.

 

Mae pedair gweinyddiaeth y DU wedi cydweithio ar gynnwys y rheoliadau penodol sy’n llywodraethu’r broses o ddatrys anghydfod. Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i bob anghydfod sy’n ymwneud â pharagraffau 1 i 4 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (peidio â throsglwyddo cyfrifoldeb cyffredinol ar gyfer lleoliadau).

 

Mae’r rheoliadau o dan Atodiad 1 yn datgan y canlynol:

 

·         Ni ddylid caniatáu i anghydfod atal, tarfu ar, oedi neu gael unrhyw effaith andwyol arall ar ddiwallu anghenion gofal cymdeithasol unigolyn[21].

·         Yr awdurdod y mae’r unigolyn yn preswylio yn ei ardal ar yr adeg pan fo’r anghydfod yn codi yw’r awdurdod arweiniol at bwrpas y dyletswyddau perthnasol i gydlynu a rheoli’r anghydfod.

 

Os bydd anghydfod yn codi rhwng dau awdurdod ac os bydd yr unigolyn yn byw yn ardal un o’r awdurdodau hynny pan gaiff yr anghydfod ei atgyfeirio, y Gweinidog/ Adran yng Ngogledd Iwerddon (AGI) y mae’r awdurdod yn ei awdurdodaeth fyddai’n gwneud penderfyniad ynghylch yr anghydfod. Os bydd anghydfodau eraill rhwng awdurdodau, y Gweinidogion/AGI y mae’r awdurdodau hynny yn eu hawdurdodaeth fyddai’n penderfynu ymysg ei gilydd pwy fyddai’n gwneud penderfyniad ynghylch yr anghydfod.

 

Cyn atgyfeirio anghydfod i’r unigolyn perthnasol, mae’n rhaid i’r awdurdodau lleol dan sylw gymryd nifer o gamau.

 

Mae’n rhaid i’r awdurdod arweiniol wneud y canlynol:

·         cydlynu gwaith yr awdurdodau sy’n rhan o’r anghydfod wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau

·         cymryd camau i sicrhau gwybodaeth berthnasol gan yr awdurdodau hynny

·         datgelu gwybodaeth berthnasol i’r awdurdodau hynny

 

Mae’n rhaid i’r awdurdodau sy’n rhan o’r anghydfod wneud y canlynol:

·         cymryd pob cam rhesymol i ddatrys yr anghydfod ymysg ei gilydd

·         cydweithredu â’i gilydd wrth gyflawni eu dyletswyddau.

 

Mae’n rhaid i bob awdurdod sy’n rhan o’r anghydfod wneud y canlynol:

·         Trafod yn adeiladol ag awdurdodau eraill er mwyn sicrhau bod unrhyw anghydfod yn cael ei ddatrys yn gyflym

·         Cydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan yr awdurdod arweiniol am gyflenwi gwybodaeth

 

Mae’r Rheoliadau’n manylu ar gynnwys anghydfod sy’n cael ei atgyfeirio fel a ganlyn.

 

Pan fydd anghydfod yn cael ei atgyfeirio, mae’n rhaid darparu’r canlynol:

·         llythyr wedi’i lofnodi gan yr awdurdod arweiniol yn datgan bod yr anghydfod yn cael ei atgyfeirio

·         datganiad o’r ffeithiau

·         copïau o’r ohebiaeth gysylltiedig.

 

Mae’n rhaid i’r datganiad o ffeithiau gynnwys y canlynol:

·         gwybodaeth am anghenion gofal a chymorth yr unigolyn y mae’r anghydfod yn berthnasol iddo

·         pa awdurdod sydd wedi diwallu’r anghenion hynny, os oes un wedi gwneud hynny, sut mae wedi eu diwallu a’r ddarpariaeth statudol berthnasol

·         esboniad o natur yr anghydfod

·         unrhyw gamau perthnasol eraill a roddwyd ar waith mewn perthynas â’r unigolyn

·         manylion man preswylio’r unigolyn ac unrhyw fan preswylio blaenorol

·         cronoleg y digwyddiadau yn arwain at yr anghydfod

·         manylion y camau y mae’r awdurdodau wedi’u rhoi ar waith i ddatrys anghydfod

·         lle mae gallu meddyliol yr unigolyn yn berthnasol, gwybodaeth ategol berthnasol.

 

Caiff yr awdurdodau sy’n rhan o’r anghydfod wneud cyflwyniadau cyfreithiol ac os byddant yn gwneud hynny, mae’n rhaid iddynt anfon copi at yr awdurdodau eraill sy’n rhan o’r anghydfod, a dangos tystiolaeth eu bod wedi gwneud hynny.

 

Mae’n rhaid i’r Person Cyfrifol (h.y. Gweinidog neu Adran yng Ngogledd Iwerddon) y mae’r anghydfod wedi’i atgyfeirio iddo wneud y canlynol

·         ymgynghori â phersonau cyfrifol eraill (h.y. Gweinidogion neu Adran GI) wrth wneud penderfyniad ynghylch yr anghydfod

·         rhoi gwybod i’r personau cyfrifol hynny am eu penderfyniad.

 

 

Methiant darparwyr

 

Os yw trefniadau trawsffiniol a wnaed neu a gyllidwyd â darparwr ar gyfer unigolyn yn methu, ac nad yw’r darparwr yn gallu parhau â’r gofal o ganlyniad, mae gan yr awdurdod yr oedd anghenion gofal cymdeithasol yr unigolyn yn cael eu diwallu yn ei ardal ddyletswyddau i sicrhau bod yr anghenion hynny’n parhau i gael eu diwallu tra bo’r awdurdod yn credu bod hynny’n angenrheidiol. O safbwynt lleoliadau preswyl, gan mai’r awdurdod cyntaf a fydd yn parhau i fod â chyfrifoldeb cyffredinol fel arfer, bydd cyfathrebu a chydweithio agos rhwng yr awdurdod cyntaf a’r ail awdurdod yn bwysig gydol y broses.

 

Os bydd darparwr yn yr Alban yn methu, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gyflawni’r dyletswyddau sydd wedi’u darparu o dan Ran 2 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968, fel y nodir yn y rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraffau 1(6) a (7), 2(9) a (10), a 4(5) a (6) o Atodlen 1 i Ddeddf Gofal 2014.

 

Mae’r Ddeddf yn galluogi’r ail awdurdod (os yw’n awdurdod yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon) i adennill costau gan yr awdurdod sydd wedi gwneud neu ariannu’r trefniadau. Bydd y pŵer hwn yn dechrau mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru ar yr un pryd ag y bydd y ddyletswydd dros dro yn dechrau.

 

Os bydd anghydfod yn dod i’r amlwg yn ddiweddarach, er enghraifft, oherwydd costau sy’n deillio o fethiant darparwr, bydd rheoliadau anghydfod Atodlen Un a ddisgrifir uchod yn berthnasol (os yw hyn yn ymwneud â dyletswyddau awdurdodau yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon).

 

Trefniadau trawsffiniol posibl yn y dyfodol

 

Mae Atodlen Un yn gwneud darpariaeth ar gyfer pwerau llunio rheoliadau mewn perthynas â gweithredu egwyddorion trawsffiniol i gyfarwyddo taliadau a/neu fathau eraill o lety nad ydynt yn cael eu trefnu gan awdurdod lleol. 

 

Bydd Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn parhau i adolygu’r posibilrwydd o arfer y pwerau llunio rheoliadau hyn, yng nghyd-destun gweithredu’r lleoliadau trawsffiniol preswyl a datblygiadau polisi ledled holl weinyddiaethau’r DU.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 



[1] http://www.stonham-bass.org.uk/

[2] Mae’r Ddeddf yn nodi bod rhaid i dimau troseddau ieuenctid gynnwys o leiaf un o’r canlynol: (a) swyddog bwrdd prawf lleol neu swyddog darparwr gwasanaethau prawf; (b) gweithiwr cymdeithasol awdurdod lleol; (c) plismon; (d) person wedi’i enwebu gan Fwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol; (e) person wedi’i enwebu gan y prif swyddog addysg a benodwyd gan yr awdurdod lleol

[3] http://www.publications.parliament.uk/pa/ld200809/ldjudgmt/jd090520/appg-1.htm

 

[4] Gweler adrannau 110 cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 3, 112 cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 4, 114 cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a 115 cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 o Ddeddf 2014.

[5] Gweler adran 105 – cadw mewn cysylltiad; adran 106 – cynghorwyr personol; adran 107 – asesiadau a chynlluniau llwybr: cyffredinol ac adran 108 – asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18.

 

[6] http://www.justice.gov.uk/offenders/psis - gweler 17/2015

[7]http://www.legislation.gov.uk/anaw/2014/7/section/52/enacted

.

[8]http://www.google.co.uk/url?url=http://walescrc.co.uk/uploads/WALES_CRC_INTERVENTIONS_EDITION_3_-_FINAL_LOW_RES_NEW.pdf&rct=j&frm=1&q=&esrc=s&sa=U&ei=ODxbVb7mD6vV7QaLp4HgCg&ved=0CBkQFjAA&usg=AFQjCNHzImFseXY8Kj_93IMmpoVqeD3-ig

[9]https://www.google.co.uk/url?url=https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/374572/Youth_Justice_Strategy_English.PDF&rct=j&frm=1&q=&esrc=s&sa=U&ei=LztbVbioKsyI7AbdlYPoBQ&ved=0CBoQFjAB&usg=AFQjCNE8UjVmKEMY5LvOxNIv59KvoRM3XA

 

 

[10] OASys BCS (Part 1), NOMS, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder

[11] http://www.justice.gov.uk/offenders/psis

[12] http://www.justice.gov.uk/downloads/offenders/psipso/psi-2015/psi-16-2015-adult-aafeguarding-in-prisons.pdf

 

[13] http://www.justice.gov.uk/offenders/psis/prison-service-instructions-2014

[14] http://www.justice.gov.uk/offenders/psis/prison-service-instructions-2014

[15] http://www.justice.gov.uk/offenders/psis/prison-service-instructions-2012

 

[16] Caldicott 2 - http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=950&pid=68298

[17] Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru http://www.waspi.org/

 

[18]   R. (Cornwall Council) v Secretary of State for Health [2015] UKSC 46 at [47].

[19] Awdurdod = Awdurdod Lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Ymddiriedolaeth IGC yng Ngogledd Iwerddon.

[20] Gallai lleoliadau trawsffiniol ddigwydd lle mae unigolyn yn byw gartref neu lle mae eisoes yn byw mewn llety gofal preswyl.   

[21] Gweler ystyr bellach y gair ‘anghenion’ yn ymwneud â’r pedair tiriogaeth o dan y rheoliadau.